Mudiad iaith newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Fe fydd mudiad newydd yn ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg yn dechrau ar ei waith.
Mae Dyfodol i'r Iaith yn sefydliad annibynnol, heb gysylltiadau gwleidyddol, fydd yn ceisio sicrhau bod gan y Gymraeg ran amlwg ym mywydau pobl yng Nghymru.
Fe fydd Dyfodol i'r Iaith yn cael ei lansio yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Ymysg y cefnogwyr mae cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price, y ddarlledwraig Angharad Mair a'r hanesydd Hywel Williams.
Dywedodd cefnogwyr y bydden nhw'n lobïo i sicrhau bod yr iaith Gymraeg "yng nghanol bywyd cymunedol a dinesig Cymru".
'Annibynnol'
Mae hi'n 50 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei araith enwog, Tynged yr Iaith.
Roedd yr araith yn galw am ddulliau chwyldroadol i achub a diogelu'r iaith.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ym mis Awst 1962, ffurfiwyd y mudiad protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Ym mis Ebrill eleni cafodd dyletswyddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu trosglwyddo i'r Comisiynydd iaith, Meri Huws, gafodd ei phenodi gan Lywodraeth Cymru.
"Rydym angen mudiad fel Dyfodol i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael i ddeddfu o ran yr iaith Gymraeg," meddai Heini Gruffudd o Abertawe, aelod o'r pwyllgor llywio.
Dywedodd y mudiad y bydden nhw'n canolbwyntio ar nifer o feysydd gan gynnwys addysg, cymunedau, yr economi, y cyfryngau a chynllunio ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Mae Dr Simon Brooks, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi dweud ei bod yn hen bryd i Gymru gael "grŵp lobïo annibynnol" i'r iaith yn ystod yr oes "ôl-ddatganoli".
Ychwanegodd fod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad llwyddiannus iawn.
Croesawu
Ond roedd yn ymwneud â "phrotestio ar y strydoedd" a "gweithredu'n uniongyrchol" tra byddai Dyfodol i'r Iaith yn defnyddio dulliau cyfansoddiadol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion fod mudiad iaith newydd wedi'i sefydlu.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda'r mudiad iaith newydd," meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Bethan Williams.
"Gobeithio y bydd y mudiad newydd yn ymuno â'r rhwydwaith sydd eisoes ar waith - Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.
"Mae'r grŵp ymbarél yna wedi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Cynulliad eleni ac yn gwneud gwaith ardderchog yn pwyso ar wleidyddion ..."
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bwriad i sefydlu Uned Cyswllt i'r Cynulliad a'i fod yn anelu at gyflogi arweinydd yr uned ar ddechrau tymor nesaf y Cynulliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012