Pryder am gau ffyrdd dros gyfnod y Gemau Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Cylchoedd OlympaiddFfynhonnell y llun, BBC News online
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Caerdydd yn cynnal 11 o gemau gyda ffyrdd yn cau am hyd at wyth awr

Mae arweinwyr busnes yn pryderu am golli busnes gan fod cymaint o ffyrdd Caerdydd i gau yn ystod cystadlaethau pêl-droed y Gemau Olympaidd.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 o gemau, gyda nifer o ffyrdd ar gau am hyd at wyth awr ar ddyddiau'r cystadlu.

Mae grŵp manwerthu yn dweud bod y Gemau Olympaidd yn newyddion da i rai, ond maen nhw'n poeni y bydd nifer o siopwyr yn cadw draw.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd degau o filoedd o bobl yn dod i'r ddinas ar yr wyth niwrnod pan fydd cystadlu yn y stadiwm.

Bydd y gêm gyntaf, gêm bêl-droed merched rhwng Team GB a Seland Newydd, yn digwydd ddydd Mercher, Gorffennaf 25.

Dyma fydd cystadleuaeth gyntaf y Gemau.

Bydd y gic gyntaf am 4pm, ond bydd nifer o ffyrdd yn cau am 1.30pm, ac yn cau am wyth awr gan fod gêm arall - Cameroon yn erbyn Brasil - yn dilyn yn syth.

Ar ddyddiau pan mai dim ond un gêm sy'n digwydd, bydd y ffyrdd dan sylw ar gau am bum awr a chwarter.

'Cyfle perffaith'

Dywedodd Dabid Hughes-Lewis ar ran Partneriaeth Manwerthu Caerdydd: "Rwy'n credu y bydd gwestai yn elwa'n fawr, ond a fydd manwerthwyr yn gweld y fantais - dwn i ddim.

"Mae gen i ofn na fydd llawer o siopwyr yn trafferthu wrth weld yr holl ffyrdd wedi eu cau, a'r diffyg lleoedd parcio fydd ar gael."

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai Llundain 2012, fel digwyddiad, yn cynnig y cyfle perffaith i ddenu ymwelwyr i'r ddinas.

"Yn ystod yr wyth niwrnod o gystadlu yn Stadiwm y Mileniwm, bydd degau o filoedd o bobl yn dod i ganol y ddinas, ac fe fydd hynny yn ei dro o fudd i fusnesau lleol ac i'r economi leol," meddai llefarydd.

"Eisoes rydym yn clywed adborth positif gan fanwerthwyr lleol am yr effaith y mae'r Gemau wedi eu cael ar eu busnesau cyn i'r cystadlu ddechrau hyd yn oed.

"Mae nifer o westai hefyd wedi dweud bod llawer mwy yn aros gyda nhw na'r un cyfnod y llynedd."

Manylion

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau'n llwyr :-

Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n rhannol :-

Ffordd y Brenin (o'r gyffordd â Heol y Gogledd / Boulevard-de-Nantes i'r gyffordd â Heol y Dug).

Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth).

Stryd Tudor (o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood)

Plantagenet Street a Beauchamp Street (o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor).

Bydd mynediad ar gael i breswylwyr a masnachwyr i Stryd Tudor /Plantagenet Street/Beauchamp Street.

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael ar ddyddiau cystadlu, ac mae gofyn i bobl ddilyn yr arwyddion o'r M4.

Dywedodd cwmni Trenau Arriva Cymru y bydd trenau ychwanegol ar gael ar gyfer y pêl-droed yng Nghaerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol