Pryderon traffig: 300 mewn cyfarfod yn Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd
Roedd tua 300 o bobl mewn cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod problemau traffig un o drefi Powys.
Mae gyrwyr yn Y Drenewydd wedi dioddef oedi a thagfeydd yn y dref ers tro ond yn awr mae 'na honiadau bod y problemau wedi cynyddu ers i oleuadau traffig gymryd lle cylchfan ger archfarchnad.
Mae cynllun i adeiladu ffordd osgoi ar y gweill ond ni fydd y gwaith adeiladu yn dechrau tan 2014.
Cafodd adroddiad gan ymgynghorwyr o Gaerdydd i ganfod y ffordd orau i wella llif y traffig drwy'r dref ei gyhoeddi yn gynharach eleni wedi iddo gael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Tagfeydd
Dywed yr adroddiad fod rhai pobl leol yn "pallu mynd" i'r archfarchnad Tesco "oherwydd y problemau traffig".
Mae 'na gwynion fod y gyffordd pedair ffordd gyda'r goleuadau traffig yno yn achosi oedi hir yn ystod rhai cyfnodau penodol.
Ond ym mis Mawrth fe ddywedodd Tesco fod eu harchfarchnad yn "boblogaidd iawn".
Yn y cyfarfod gafodd ei gynnal nos Iau, dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru fod tua 18,000 o gerbydau yn teithio trwy'r dref bob dydd ond bod y ffordd drwy'r dref yn addas ar gyfer 13,000 cerbyd yn unig.
Ychwanegodd fod tagfeydd yn anorfod ac mai ffordd osgoi oedd yr un ffordd i liniaru'r broblem.
Cafodd archfarchnad Tesco ei hadeiladu ar safle hen farchnad Y Drenewydd a chafodd ei hagor ym mis Chwefror 2010.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2011