Gemau Olympaidd: Rhagor o swyddogion

  • Cyhoeddwyd
Cylchoedd OlympaiddFfynhonnell y llun, BBC News online
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Caerdydd yn cynnal 11 o gemau

Yn ôl Heddlu'r De mae rhagor o'u swyddogion yn cael eu galw i fod yn gyfrifol am ddiogelwch yn Stadiwm y Mileniwm a safleoedd hyfforddi athletwyr yng Nghaerdydd yn ystod y Gemau Olympaidd.

Dydyn nhw ddim yn fodlon cadarnhau'r niferoedd, ond mae'n deillio o helyntion cwmni G4S a fethodd â chyflogi digon o swyddogion diogelwch.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 o gemau, gyda'r gêm gyntaf, gêm bêl-droed merched rhwng Team GB a Seland Newydd, yn digwydd ddydd Mercher, Gorffennaf 25.

Dyma fydd cystadleuaeth gyntaf y Gemau.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Julian Kirby fod Heddlu De Cymru a'i bartneriaid wedi "ymrwymo i sicrhau gemau diogel ar gyfer y cystadleuwyr, y sawl sy'n eu gwylio a phawb sy'n byw yn ne Cymru.

"Ni fydd hyn yn cael effaith ar lefel ein gwasanaeth i gymunedau de Cymru," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol