Cynnydd yn achosion canser y croen yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd yn eu 50au yng Nghymru dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwybod eu bod yn dioddef o'r math perycla o ganser y croen na 30 mlynedd yn ôl.
Yng Nghymru, mae 740 o bobl yn cael gwybod eu bod yn dioddef o felanoma malaen bob blwyddyn yn ôl ystadegau gan Ymchwil Canser UK.
Mae tua 120 o bobl yn marw o'r clefyd bobl blwyddyn ac mae 15 o'r rhain yn eu 50au.
Mae'r cynnydd yn golygu bod oddeutu dau o bobl yn eu 50au yng Nghymru yn cael gwybod eu bod yn dioddef o'r clefyd bob wythnos.
Hybu ymwybyddiaeth
Dywed Ymchwil Canser UK fod hyn yn newid arwyddocaol ers yr 1970au.
Yn ôl ystadegau diweddaraf yr elusen bu tua chwe achos o felanoma malaen i bob 100,000 o'r boblogaeth oedd yn eu 50au yn yr 1970au.
Ond mae'r gyfradd wedi cynyddu i tua 27 o bob 100,000 o bobl.
Yn ôl Ymchwil Canser UK roedd melanoma malaen yn y 19eg safle o ran y canser mwyaf cyffredin ymysg pobl yn eu 50au yn 1982 ond erbyn hyn y math hwn o ganser yw'r pumed mwyaf cyffredin.
Mae'r cynnydd wedi sbarduno cwmni Tesco i lansio ymgyrch newydd i hybu ymwybyddiaeth yn eu siopau mewn partneriaeth ag Ymchwil Canser UK.
Bydd taflenni'r elusen am ganfod canser y croen yn gynnar a chyngor am atal y clefyd, ar gael yn fferyllfeydd a chaffis Tesco.
Man du
Cafodd Tony Fitzgerald, 67 oed o Abertawe, wybod ei fod yn dioddef o felanoma malaen ym mis Mehefin 2003 pan aeth i glinig Ymchwil Canser UK tra oedd yn ymweld â Chynhadledd y Blaid Lafur.
"Gofynnais i un o'r nyrsys i edrych ar fan du oedd ar fy nghroen oherwydd roeddwn i'n poeni am ei faint a'i siâp.
"Dywedodd wrthyf y dylwn i ymweld â'm meddyg teulu am fod y man du yn edrych yn wahanol i'r gweddill oedd gennyf.
"Rwyf mor hapus fy mod i wedi mynd i'r clinig oherwydd ei fod mor bwysig i ganfod y clefyd yn gynnar.
"Rwy'n gwybod y gallai'r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn pe na fyddwn i wedi ymweld â'r clinig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru'r raddfa uchaf yn y DU o ran goroesi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r nifer sy'n derbyn rhaglenni sgrinio am ganser ymysg yr uchaf yn Ewrop.
"Ond er bod y siawns o oroesi wedi cynyddu, mae nifer yr achosion o ganser wedi cynyddu hefyd.
"Mae ein Cynllun Cyflenwi Canser, gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin, yn amlinellu sut y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn taclo canser tan 2016.
"Mae'r cynllun yn pwysleisio ei fod yn bwysig i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd lle bo hynny'n bosib yn ogystal ag amlinellu beth fydd y llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd yn eu gwneud."
"Mae camau syml fel osgoi'r hail rhwng 11am a 3pm a gwarchod y croen gan ddefnyddio hylif haul ffactor 15 neu fwy yn lleihau'r risg o losgi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2011