Ymgyrch i atal nwyddau Olympaidd ffug

  • Cyhoeddwyd
Crys-T Olympaidd anghyfreithlon
Disgrifiad o’r llun,

Mae timau safonau masnach yn dweud y byddan nhw'n atal nwyddau Olympaidd anghyfreithlon rhag cyrraedd y strydoedd

Mae swyddogion safonau masnach yng Nghaerdydd wedi meddiannu miloedd o nwyddau brand Olympaidd ffug, gan gynnwys crysau-T a chwpanau.

Mae 'na reolau llym ynghlwm wrth frandio sydd ond yn caniatáu noddwyr swyddogol i gysylltu'u hunain â'r gemau.

Mae siopau a masnachwyr ger Stadiwm y Mileniwm - ble bydd rhai gemau pêl-droed Olympaidd yn cael eu chwarae - hefyd wedi cael rhybudd.

Yn ôl y cyfreithiwr Lee Fisher, mae'r rheolau yn achosi problemau a dryswch i gwmnïau bychain oedd eisiau dathlu'r digwyddiad.

Roedd y crysau a'r cwpanau a gafodd eu meddiannu'n cynnwys y gair 'Olympaidd', mewn modd oedd yn groes i'r rheolau.

Mae cynnwys y gair, neu ddefnyddio'r cylchoedd Olympaidd, wedi ei wahardd am resymau masnachu, gyda chyfraith arbennig wedi ei llunio i fynd i'r afael ag unrhyw ymgais i dorri rheolau.

Mae yna hefyd ganllawiau dros dro ar gyfer siopau a busnesau gerllaw'r canolfannau Olympaidd.

Yn achos Caerdydd, mae'n cynnwys hanner canol y ddinas tra bod y gemau pêl-droed yn cael eu cynnal.

Her fawr

Disgrifiad o’r llun,

Mae siopau a thai bwyta wedi cael rhybudd i beidio â defnyddio'r brand Olympaidd

Bydd defnyddio rhai cyfuniadau o eiriau, fel Llundain a Gemau neu 2012 a Gemau, wedi ei wahardd am y cyfnod.

Mae 'na hefyd ganllawiau yn ymwneud â masnachwyr stryd a hysbysebu.

Mae Handley Brustad, swyddog masnach gyda Chyngor Caerdydd, yn helpu i weithredu'r rheolau ar ran trefnwyr y Gemau Olympaidd.

Dywedodd mai'r her fawr fydd ceisio atal pobl fydd yn ceisio elwa o'r gemau trwy ddosbarthu taflenni neu eitemau wedi'u brandio.

Problemau

"Mae'r byd yn mynd i fod yn edrych ar Gaerdydd. Rydym eisiau dangos y ddinas ar ei gorau," meddai.

"Beth bynnag fyddan nhw'n feddwl amdano, rwy'n siŵr y byddwn ni'n delio gyda fe."

Yn ôl Mr Fisher, cyfreithiwr gyda chwmni Morgan Cole yng Nghaerdydd, nod y rheolau yw amddiffyn incwm noddwyr swyddogol y gemau.

Ond dywedodd: "Dyma'r trefniadau mwya' caeth i gael eu cyflwyno gydag unrhyw ddigwyddiad, ond yn enwedig y Gemau Olympaidd, o ran bod 'na waharddiad llwyr mewn ardaloedd o gwmpas y canolfannau Olympaidd.

"Rwy'n gallu gweld y cyfiawnhad drosto ond mae'n achosi problemau i fusnesau bach sydd ddim yn ceisio gwneud arian ond yn ceisio bod yn rhan o'r dathliadau."

Mae rhai masnachwyr yng Nghaerdydd yn honni bod 'na ddryswch wedi bod ond mae swyddogion safonau masnach yn dweud eu bod wedi ymgynghori'n eang ac nad ydyn nhw'n bwriadu ymyrryd â masnachu lleol os nad oes angen.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol