Staff ychwanegol i gyflymu'r mynediad i Stadiwm y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dros 100 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio ar gyfer cyflymu'r broses o archwilio pobl sy'n mynd mewn i ddigwyddiadau Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd Gemau Llundain 2012 yn cychwyn yng Nghaerdydd ddydd Mercher, gyda gêm bêl-droed merched rhwng Team GB a Seland Newydd am 4pm.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod wedi dechrau casglu gwirfoddolwyr o blith eu staff ddiwedd yr wythnos diwethaf wedi cais gan drefnwyr y Gemau, Locog.
Fe wnaeth y cyngor e-bostio staff yn cynnig £8.50 yr awr i unrhyw un â diddordeb mewn cynorthwyo.
Bagiau plastig clir
Dywedodd llefarydd bod y rôl yma yn "ddymunol" ond nid yn angenrheidiol ac nad oedden nhw o ganlyniad i brinder staff gan gwmni G4S.
Ymhlith y tasgau, fe fydd y staff yn darparu bagiau plastig clir er mwyn i bobl roi eu heiddo ynddo cyn mynd drwy'r sganiwr diogelwch, fel sy'n digwydd mewn meysydd awyr.
Dywedodd y cyngor bod dros 400 o geisiadau yn cael eu prosesu.
Bydd y rhai llwyddiannus yn cael gwybod a ydyn nhw wedi'u dewis brynhawn dydd Mawrth - 24 awr cyn y digwyddiad cyntaf.
Dros y penwythnos fe ddaeth i'r amlwg y bydd mwy o heddlu yn darparu diogelwch o amgylch y Stadiwm ac adeiladau eraill sy'n cael eu defnyddio gan athletwyr yng Nghaerdydd.
Daeth y cyhoeddiad wedi trafodaethau rhwng trefnwyr y Gemau a Heddlu De Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012