£2.3m i adfer lido ym Mharc Ynysangharad

  • Cyhoeddwyd
Y lido ym Mharc Coffa Ynysangharad yn ei ddyddiau cynnarFfynhonnell y llun, Cyngor RTC
Disgrifiad o’r llun,

Y lido ym Mharc Coffa Ynysangharad yn ei ddyddiau cynnar

Bydd un o lidos mwyaf Cymru, a'r unig un sy'n dal yn rhestredig, yn cael ei adfer wedi buddsoddiad o £2.3 miliwn.

Y lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, yw'r unig bwll rhestredig i oroesi yng Nghymru.

Mae'n un o ddim ond 14 gydag arwyddocâd pensaernïol i oroesi yn y Deyrnas Unedig gyfan.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'r cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), ynghyd ag arian a geisir gan gyllidwyr eraill, i adfer ac ailagor yr adeiladau Lido rhestredig Gradd II gyda chyfleusterau modern i'r gymuned leol.

Mae'n rhan o brosiect £6.2 miliwn, sy'n gobeithio denu 30,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf wedi ailagor.

Bydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd helaeth i bobl ddysgu am a chymryd rhan yn nhreftadaeth y Lido.

1927

Cafodd ei adeiladu yn 1927 mewn cyfnod pan oedd cannoedd o lidos a phyllau nofio awyr agored yn cael eu hadeiladu ledled y Deyrnas Unedig, ond cafodd ei gau yn 1991.

Ffynhonnell y llun, Rhondda Cynon Taf / Capita Symonds
Disgrifiad o’r llun,

Darlun artist o sut y byddai'r lido yn edrych wedi'r gwaith

Gyda'i bwll siâp petryalog, corneli crwn ac ardal ddeifio hanner-cylch, ystyriwyd y Lido i fod ag un o'r pyllau nofio awyr agored mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn ei anterth.

Mae cynlluniau yn cynnwys hyfforddiant sgiliau cadwraeth achrededig i bobl ifanc a fydd yn gweithio ar y prosiect adfer ac arddangosfa ar hanes y Lido a'r Parc gydag atgofion a lluniau gan bobl leol.

Y nod yw darparu blas i ymwelwyr o sut oedd bywyd yng Nghymoedd De Cymru yn ystod y 1920au.

'Unigryw'

Ffynhonnell y llun, Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr y lido wedi dirywio dros y blynyddoedd

"Mae Lido Ynysangharad yn ased dreftadaeth unigryw yng Nghymru sy'n werth ei hachub," meddai Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor CDL Cymru.

"Bydd y prosiect yn adfer y Lido i'w hen ogoniant a thrwy wneud hynny yn creu atyniad ymweld â chanolfan gymunedol arbennig gyda buddiannau economaidd a chymdeithasol arwyddocaol".

Yn ôl Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Anthony Christopher, mae'r penderfyniad yma yn hwb enfawr i'r prosiect.

"Yr arian yma yw'r mwyaf erioed i ni dderbyn yn Rhondda Cynon Taf.

"Bydd adfer ac ailagor y pwll yn cael effaith arwyddocaol ar hybu ac uwchraddio'r parc.

"Byddai'r Lido yn ased enfawr i adfywio Pontypridd ar y cyfan ac mae'r newyddion positif am ddyfarnu'r cyllid hwn yn rhoi anogaeth i ni weithio'n agos gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i sicrhau gweddill y pecyn ariannu."