Craig Bellamy yn dweud bod angen parchu anthemau
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru Craig Bellamy wedi galw am barch wrth i anthem God Save The Queen gael ei chanu cyn gêm tîm dynion Prydain yn erbyn Uruguay yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Cafodd yr anthem ei bwio pan chwaraeodd Lloegr yn erbyn Cymru yn y stadiwm ym mis Mawrth 2011.
Hyd yn hyn, dyw'r pum Cymro sy'n rhan o'r garfan heb ganu'r anthem cyn chwarae yn y Gemau Olympaidd.
Ond dywedodd Bellamy nad oes angen i gefnogwyr Cymru fwio.
"Byddaf yn disgwyl i'r gân gael ei pharchu, dwi ddim yn hoff o fwio anthem unrhyw wlad."
Buddugoliaeth
"Dwi ddim yn hoffi'r peth mewn unrhyw fath o chwaraeon, nid yn unig pêl-droed.
"Dyle chi fod yn dawel a pharchu pob anthem genedlaethol, hyd yn oed eich gelyn pennaf, dyw'r caneuon ond yn parhau rhyw funud neu ddau."
Dywedodd rheolwr y tîm, Stuart Pearce, nad oedd yna unrhyw bolisi ynglŷn â ddylai chwaraewyr ganu'r anthem a'i pheidio.
Mae pob tocyn, 69,000, wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm sy'n dechrau am 7.45pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012