'Peryglu diogelwch cleifion'

  • Cyhoeddwyd
Mae cyrff y GIG yn cael terfyn amser gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion i wella gweithdrefnau.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyrff y GIG yn cael terfyn amser gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion i wella gweithdrefnau.

Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn peryglu cleifion drwy beidio â chydymffurfio â Rhybuddion Diogelwch Cleifion, yn ôl elusen.

Mae Rhybuddion Diogelwch Cleifion yn cael eu cyhoeddi ledled y Deyrnas Unedig ar ôl i bethau mynd o chwith droeon yn y gwasanaeth iechyd gan achosi niwed neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae cyrff y GIG wedyn yn cael terfyn amser gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion i wella gweithdrefnau.

Mae adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Gwener gan yr elusen Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AvMA) yn honni nad yw'r un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cydymffurfio ar gyfer yr holl Rhybuddion Diogelwch Cleifion lle mae'r terfynau amser wedi mynd heibio.

Mae hyn yn cynnwys gweithdrefnau i leihau'r risgiau yn ymwneud â thrallwysiadau gwaed a darparu gofal hanfodol os yw claf yn cwympo yn yr ysbyty.

Hanner

Yn ôl y dadansoddiad, a welwyd gan BBC Cymru, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - sy'n rhedeg ysbytai yn y gogledd - dim ond wedi gorffen cyflwyno ychydig dros hanner (51%) o'r rhybuddion a gyhoeddwyd.

Roedd dau o'r byrddau, (Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf) sawl blwyddyn yn hwyr ar ddefnydd o strapiau arddwrn i gleifion.

Wrth gydnabod peth gwelliant diweddar, mae Prif Weithredwr yr elusen Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol, Peter Walsh, yn dweud bod y sefyllfa yng Nghymru yn ei chyfanrwydd yn "siomedig iawn ac yn destun pryder" ac yn rhoi cleifion o dan "risg diangen".

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu unrhyw graffu ar ddiogelwch cleifion.

"Mae'n fater y mae'r gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru yn ei gymryd o ddifrif.

"Mae Lloegr wedi cymryd y penderfyniad i gau'r Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion, ac o ganlyniad mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu rôl diogelu cleifion o fewn Uned Gyflawni newydd".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol