Pryderon newydd am achos llofruddiaeth Lynette White

  • Cyhoeddwyd
Lynette WhiteFfynhonnell y llun, PA

Mae yna bryderon newydd am y modd yr aed ati i ymchwilio i swyddogion heddlu oedd yn rhan o ymchwiliad gwreiddiol llofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988.

Fe arweiniodd yr ymchwiliad gwreiddiol i gamweinyddu cyfiawnder.

Mae rhaglen Panorama y BBC, gafodd ei chynhyrchu gan yr un tîm wnaeth adrodd ar yr achos 20 mlynedd yn ôl, yn dweud fod y swyddog oedd yn arwain yr ymchwiliad yn gorfod holi cyn bennaeth iddo.

Roedd Panorama yn ymateb i bryderon a godwyd gan nifer o gyn swyddogion Heddlu De Cymru.

Pennaeth

Fe fydd y tro diweddara hwn yn y stori nawr yn cael ei ystyried gan Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref.

Yn 2004 roedd ymchwiliad, oedd yn cael ei oruchwylio gan Gomisiwn Cwynion yr Heddlu, yn caniatáu i Heddlu De Cymru ymchwilio i'r hyn oedd wedi mynd o'i le gyda'r ymchwiliad gwreiddiol.

Dywedodd ffynhonnell oedd yn agos i'r ymholiad wrth Panorama bod y penderfyniad wedi ei wneud i ganiatáu i Heddlu'r De ymchwilio eu hunain er mwyn adfer moral o fewn y llu.

Dadleuol

Ymhlith swyddogaethau'r prif uwch-arolygydd Chris Coutts oedd ymchwilio ei gyn bennaeth yr arolygydd Dick Powell. Roedd Mr Powell yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i'r llofruddiaeth.

Roedd y ddau blismon wedi gweithio gyda'i gilydd yng ngorsaf Tredelerch.

Roedd yr ymchwiliad gan Coutts a'i dîm yn hynod o drylwyr ac effeithiol. Ond mae'r hyn a ddigwyddodd pan wnaeth yr achos gyrraedd llys y Goron Abertawe yn parhau yn ddadleuol.

Fe wnaeth yr achos gwympo yn Rhagfyr 2011, ar ôl i'r erlyniad wneud sawl camgymeriad yn eu dyletswydd i ddatgelu.

Meddiant

Cafwyd wyth cyn blismon oedd yn wynebu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ddieuog ar ôl i'r barnwr gael gwybod fod dogfennau tystiolaeth wedi cael eu dinistrio.

Dau fis yn ddiweddarach cafwyd hyd i'r dogfennau ym meddiant Heddlu De Cymru.

Arglwydd Carlile QC oedd yn cynrychioli un o'r tystion gafodd eu holi gan yr heddlu yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

Dywedodd:"Rwy'n rhoi'r bai ar yr heddlu yn y lle cyntaf oherwydd mae'n gwbl eglur na ellir osgoi'r ffaith fod y dogfennau wedi bod ym meddiant a dan reolaeth yr heddlu am amser maith. Ac o fewn amser byr iawn i ddiwedd yr achos, cafwyd hyd i'r dogfennau.

"Mae'n gwbl amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le. Hwn yw'r achos mwyaf o anghyfiawnder mewn achos unigol, yn sicr yn ystod fy ngyrfa i."

Mae'r amgylchiadau ynglŷn â'r modd y gwnaeth yr achos gwympo yn destun dau ymchwiliad, un sy'n cael ei arwain gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr heddlu. Mae disgwyl y i'r Comisiwn gyhoeddi adroddiad mis nesa.

'Ymchwiliad'

Yr haf hwn fe wnaeth Tŷ'r Cyffredin gyhoeddi ymchwiliad manwl o Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr heddlu dan Gadeiryddiaeth Keith Vaz AS.

Dywedodd Mr Vaz wrth Panorama: "Pe bai pobl wedi ysgrifennu nofel ffuglen am hyn byddai neb yn ei gredu, ond mae'n ffaith."

Pan ofynnwyd iddo a ddylai'r ymholiad wedi mynd yn ei flaen o gofio bod y dyn oedd yn ei arwain wedi gweithio oddi tan un o'r rhai dan amheuaeth, dywedodd Mr Vaz: "Mae gwrthdaro buddiannau o'r math hwn yn gorfod cael ei ystyried yn hynod ofalus. Dwi'n meddwl ei fod yn fater i ymchwiliad a dwi'n gobeithio pan fyddwn yn cael cyfle i edrych ar yr achos y byddwn yn canfod y gwir."

Er bod y ddau swyddog yn adnabod ei gilydd, fe wnaeth Coutts a'i dîm holi ac ymchwilio i'w cyn cydweithwyr yn drwyadl ac yn effeithiol.

I'r rhai gwreiddiol cafodd eu cyhuddo - a'u cael yn ddieuog - o lofruddio Lynette White, roedd cwymp achos Llys y Goron Abertawe yn ergyd fawr.

Dywedodd Matthew Gold, cyfreithiwr Stephen Miller, cariad Lynette ar adeg ei llofruddiaeth: " Maen nhw'n parhau i ddioddef o greithiau emosiynol a seiciatrig o anghyfiawnder troseddol. Mae'r rhesymau y tu cefn i pam wnaeth yr achos gwympo yn adlewyrchu'r wael iawn ar ein system cyfiawnder troseddol.

"Rwy'n gobeithio y bydd ymchwiliad Pwyllgor Dethol Materion Cartref i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i rôl y Comisiwn yn yr achos.

Bydd Panorama i'w weld ar BCC Two ar ddydd Llun Awst 13 am 8.30pm.