Ramsay: 'Na' i newid enw'r Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae AC Ceidwadol yn anghytuno gydag awgrym arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad y dylid newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.
Dywed Nick Ramsay, cadeirydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, nad oedd yna lawer o drafodaeth wedi bod am y mater ymhlith y grŵp.
Cred arweinydd y grŵp, Andrew RT Davies, y byddai newid yr enw yn cydnabod y sefyllfa bresennol ar ôl i'r Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu.
Ond yn ôl Mr Ramsay nid yw hynny'n farn sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y grŵp Ceidwadol.
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales: "Rwy'n gweld llygad yn llygad gydag Andrew ar sawl mater - ond dyw hyn ddim yn un ohonynt.
"Byddai hyn ddim yn gwneud pethau yn llai dryslyd.
"Ar hyn o bryd, mae pobl yn meddwl fod yna senedd sy'n deddfu ar ran y Deyrnas Unedig yn Llundain, ac yna mae'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Rwy'n hapus gyda hynny ac mae fy etholwyr yn hapus gyda hynny."
Ychwanegodd Mr Ramsay, wnaeth wrthwynebu Mr Davies yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth: "Mae'r penderfyniad yn nwylo Swyddfa Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Maen nhw wedi ei gwneud yn glir nad oes yna amser ar gyfer deddfu ar hyn ar hyn o bryd.
"Andrew yw arweinydd y grŵp. Mae ganddo hawl i gymryd penderfyniadau fel hyn, ond nid wyf yn rhannu'r un farn a dwi'n meddwl fod o'n bwysig i bobl sylweddoli nad yw'n farn y grŵp Ceidwadol.
Yn ôl Mr Davies bfyddai'r newid ond angen ychydig o newid i ddeddfwriaeth bresennol er mwyn dod i rym yn 2016, ac y byddai'n "ddatganiad am y sefydliad sydd bellach yn deddfu i'n cenedl falch".
Mae Swyddfa Cymru wedi awgrymu na fyddai newid o'r fath yn flaenoriaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2012