Gallai mesur trafnidiaeth arbed £500 miliwn i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Gallai Llywodraeth Cymru arbed hanner biliwn o bunnoedd o'r gyllideb i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru os fyddan nhw'n gweithredu mesur trafnidiaeth newydd yn gywir, yn ôl elusen Sustrans Cymru.
Wrth i'r cyfnod ymgynghorol ar y mesur ddirwyn i ben, mae'r elusen wedi cyhoeddi canlyniadau ymchwil newydd sy'n dangos sut y byddai cynorthwyo pobl i wneud mwy o ymarfer corff yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd dros gyfnod o 20 mlynedd.
Mae'r mesur Teithio Llesol yn galw ar awdurdodau lleol i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau i gerdded a seiclo.
Yn eu cyflwyniad i'r ymgynghoriad, mae Sustrans wedi galw am i'r mesur i gynnwys targedau clir i gynyddu'r lefel o deithio llesol.
Dywed yr elusen bod newid yn ffordd o fyw pobl i fod yn llai bywiog wedi arwain at gynnydd dramatig mewn clefydau fel diabetes (math 2) yng Nghymru, a bod un o bob pum oedolyn yn ordew, mwy 'na hanner dros eu pwysau a mwy na 70% ddim yn cyrraedd y lefel o ymarfer corff sy'n cael ei argymell.
'Dewisiadau diogelach'
Amcangyfrif adroddiad Sustrans yw y gallai'r mesur arbed £517 miliwn i'r gwasanaeth iechyd dros yr 20 mlynedd nesaf.
Dywedodd cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Lee Waters: "Pe byddai mwy o bobl yn medru cerdded neu feicio i'r gwaith, ysgol neu i'r siopau, fe fydden ni'n genedl hapusach ac iachach.
"Ond fydd hyn ddim yn digwydd ar ei ben ei hun - rhai cael dewisiadau diogelach er mwyn i bobl deithio ar droed neu ar feic.
"Rhaid i'n gwleidyddion gydnabod y budd economaidd ac iechyd y gall y mesur yma gynnig a chefnogi'r ddeddf newydd wrth iddo fynd drwy'r Cynulliad."
Awdur adroddiad Sustrans Cymru yw'r arbenigwr iechyd James Jarrett.
"Mae ataliad yn well na gwellhad wrth ystyried teithio llesol," meddai.
"Mae mwy a mwy o arbenigwyr iechyd yn argymell cerdded a beicio er mwyn ysgafnhau'r baich sy'n cael ei greu gan glefydau fel diabetes math 2 a chlefyd y galon.
"Mae gan y Mesur Teithio Llesol y potensial i fod yr ymyrraeth iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012