Seiclo: Gwella llwybr 'gwarthus' yng Nghonwy

  • Cyhoeddwyd
Llwybr beicio A55
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pont newydd yn cael ei chodi dros reilffordd

Mae gwella diogelwch llwybr seiclo "gwarthus" yng Nghonwy wedi dechrau.

Y llwybr yw'r un ger yr A55 rhwng pentir Morfa Conwy a Penmaenbach.

Bydd y gwelliannau ar gost o £1.1 miliwn.

Mae'r rhaglen yn cynnwys pont newydd dros reilffordd gyfagos.

'Erchyll'

Roedd cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, wedi dweud: "Mae'r llwybr yn beryg bywyd ... rhaid i chi seiclo ar bafin cul iawn wrth ymyl y brif ffordd heb unrhyw ddiogelwch.

"Roedd y profiad yn erchyll.

"Mae'r llwybr yn rhan o rwydwaith seiclo'r Deyrnas Unedig ac mae'n warthus."

Mae Llwybr Seiclo Cenedlaethol 5, sydd wrth ymyl y brif ffordd, wedi ei gau ers sawl blwyddyn am ei fod yn "anaddas i seiclwyr".

Yr elusen seiclo a cherdded, Sustrans, sy'n cyd-lynu'r gwelliannau.

'Newid profiad'

Dywedodd eu rheolwr yn y gogledd a'r canolbarth, Glyn Evans: "Bydd y llwybr yn llenwi'r bwlch ar hyd y llwybr seiclo a cherdded rhwng Conwy a Phenmaenmawr.

"Bydd y cyswllt hanfodol yn newid profiad seiclo a cherdded ar y llwybr hwn.

"Bydd y llwybr newydd yn rhan o lwybr Arfordir Cymru gafodd ei lansio'n ddiweddar."

Dywedodd Neil McKenzie, seiclwr brwd o Landudno, ei fod yn croesawu'r cynllun.

'Yn beryglus'

"Roedd y llwybr yn beryglus iawn am eich bod yn wynebu traffig yn teithio tuag atoch.

"Hefyd roedd lorïau'n mynd heibio ..."

Cronfa'r Loteri Fawr sydd wedi cyfrannu £300,000 o'r cynllun gwerth £1.1 miliwn a daw'r gweddill oddi wrth Gonsortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae Sustrans yn disgwyl i'r gwaith orffen erbyn mis Awst.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol