'Angen gwella sgiliau ar gyfer y gweithle'
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg o fusnesau ar draws y DU yn awgrymu nad yw llawer ohonyn nhw'n teimlo fod gan bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol y sgiliau digonol ar gyfer y gweithle.
Fe gafodd penaethiaid 140 o gwmnïau yng Nghymru eu holi gan Ffederasiwn y Busnesau Bychan fel rhan o arolwg ehangach ar draws y DU.
Dwedodd 80% eu bod yn teimlo y dylai sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu fod yn well.
Dywed yr arolwg y dylai ysgolion wneud mwy i baratoi disgyblion ar gyfer byd gwaith a bod diffyg ymgynghori o ran arolygaeth y system gymwysterau.
Caiff yr arolwg ei gyhoeddi ar y diwrnod y mae miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU.
Mae Llywodraeth Cymru yn arolygu'r system gymwysterau ar gyfer disgyblion ar hyn o bryd.
Mae'r bwrdd arolygu yn cynnwys prifathrawon, penaethiaid colegau, is-ganghellor prifysgol a phobl fusnes ac maen nhw'n ystyried pa mor wahanol i weddill y DU y dylai'r system gymwysterau fod.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am i'r system gymwysterau "ateb gofynion cyflogwyr a dysgwyr".
'Hyfforddi staff'
Y Ffederasiwn yw sefydliad mwyaf blaengar busnes yn y DU sy'n cynnwys 10,00 o aelodau yng Nghymru.
Mae'r ffederasiwn am i ddisgyblion ddatblygu sgiliau fel ysgrifennu brasluniau bywyd, cadw amser, datrys problemau a gweithio mewn tîm i helpu cyflogwyr a rhoi gwell dealltwriaeth i bobl ifanc o'r farchnad gyflogaeth.
Dywedodd cadeirydd uned polisi Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru, Janet Jones: "Mae busnesau yn fwy na pharod i fuddsoddi amser ac arian i hyfforddi staff mewn sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd.
"Ond maen nhw'n disgwyl fod ganddyn nhw'r sgiliau sylfaenol pan maen nhw'n dechrau'r swydd.
"Yn amlwg mae'n bryderus i weld fod busnesau wedi amlygu rhifedd, llythrennedd, a sgiliau craidd ar gyfer y gweithle fel cyfathrebu fel y prif broblemau."
'Sgiliau rhifedd a llythrennedd'
Ychwanegodd Mrs Jones fod y Ffederasiwn yn croesawu adolygiad o gymwysterau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Ond pwysleisiodd fod yn rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau sicrhau eu bod yn trafod gweithredu unrhyw newidiadau gyda chyflogwyr.
"Yn y pen draw, mae angen system gymwysterau ar Gymru sy'n addas at y diben ac sy'n hawdd i'w deall ac sy'n ateb gofynion cyflogwyr yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cyflogwyr wedi croesawi'r cyflwyniad o'r Fagloriaeth Gymreig.
"Mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn cael y cymhwyster yma sy'n cynnwys modiwl addysg sy'n berthnasol i waith ac sydd wedi ei greu i ddatblygu'r sgiliau rydym yn gwybod bod cyflogwyr ac addysg uwchradd yn eu gwerthfawrogi.
"Un o brif amcanion yr arolygiad yw ystyried os oes gennym system gymhwysterau sy'n asesu sgiliau rhifedd a llythrennedd yn ddigonol ac sy'n paratoi pobl ifanc yn ddigonol iddyn nhw ddechrau gweithio neu symud ymlaen i'r lefel nesaf o addysg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd15 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012