Disgyblion Cymru yn aros am eu canlyniadau TGAU

  • Cyhoeddwyd
Disgybl yn sefyll arholiad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canlyniadau yn cael eu rhyddhau am 9.30am ddydd Iau

Bydd y canlyniadau TGAU yn datgelu os ydy Cymru wedi dal i fyny ag ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig.

Fe fydd miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau ddydd Iau.

Y llynedd roedd y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn fwy nag erioed o'r blaen o ran graddau A* i C er bod y canlyniadau yng Nghymru wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol.

Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn sefyll arholiadau TGAU wrth iddyn nhw orffen addysg orfodol.

Y llynedd, llwyddodd llai na hanner o'r rhai oedd yn gadael yr ysgol yng Nghymru i gael pump neu fwy o raddau A* i C yn eu harholiadau TGAU oedd yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg, a Mathemateg.

Roedd 98.7% o'r ymgeiswyr y llynedd wedi ennill gradd A* i G - yr un faint a'r flwyddyn flaenorol.

Ond, roedd y bwlch rhwng perfformiad Cymru a Lloegr o ran ennill gradd A* i C - yn fwy nag erioed - 3.3%.

Presenoldeb disgyblion

Cafodd y canlyniadau hyn eu disgrifio fel "gwelliant gweddol fach" am fod mwy o ddisgyblion wedi cael graddau A* i C.

Er hynny roedd canlyniadau Cymru y tu ôl i rai Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mhob un o'r mesurau graddio.

Mae gwella safon llythrennedd a rhifedd disgyblion Cymru'n flaenoriaeth i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews.

Ar ôl canmol perfformiad cryf mewn gwyddoniaeth a mathemateg y llynedd, bydd ganddo ddiddordeb mawr i asesu'r canlyniadau diweddaraf.

Erbyn hyn mae ysgolion uwchradd yng Nghymru mewn pum band sydd wedi eu seilio ar berfformiad mewn arholiadau a phresenoldeb disgyblion.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi creu'r system fandio i amlygu'r ysgolion hynny sydd angen mwy o gymorth.

Mae bandio yn gosod ysgolion mewn un o bum band yn seiliedig ar 12 ffactor gan gynnwys canlyniadau arholiad, gwelliant, presenoldeb a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Canfyddiadau arolwg

Bydd yr ysgolion yn cael eu bandio unwaith eto ym mis Rhagfyr.

Felly fe fydd canlyniadau TGAU eleni yn bwysig oherwydd gallai gwahaniaethau bychain olygu bydd ysgol yn symud o un band i un arall.

Yn Lloegr mae Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, Michael Gove, yn ystyried cynlluniau i newid y system arholiadau gan ddychwelyd i arholiadau tebyg i Lefel-O ar gyfer pynciau fel Saesneg, Mathemateg, y Dyniaethau a Gwyddoniaeth.

Mae Mr Andrews wedi gwrthod newidiadau o'r fath o ran Cymru.

Ond mae arolwg o'r system gymwysterau yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Un o'r newidiadau sy'n cael eu hystyried yw creu cymwysterau hollol newydd ar gyfer disgyblion 14-16 oed yn lle TGAU ac i ba raddau y dylai'r system gymwysterau yng Nghymru fod yn wahanol i'r drefn fydd yn bodoli yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol