Cofio aberth Gwynfor Evans
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes bwriad Gwynfor Evans i ymprydio hyd farwolaeth wrth ymgyrchu i sefydlu sianel deledu Gymraeg yn cael ei adrodd ar radio a theledu.
Cafodd y gwleidydd ei eni yn Y Barri ar Fedi 1 1912 ond yn Sir Gaerfyrddin y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Roedd ei fuddugoliaeth yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966 i Blaid Cymru yn ddechrau math newydd o wleidyddiaeth a chenedlaetholdeb nid yn unig yng Nghymru ond yn Yr Alban hefyd.
Yn 1980 bygythiodd ymprydio os na fyddai Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher yn gwireddu addewid etholiadol a sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Fe fydd ei frwydr gyda'r "Fenyw Ddur" ar ddrama radio, Gwynfor v Margaret ar BBC Radio 4 ym mis Tachwedd union 30 mlynedd ers i S4C ddechrau darlledu.
Dywedodd yr awdur Rob Gittins fod papurau cabinet yn dangos bod bygythiad y Cymro yn uwch ar yr agenda wrth i'r pwysau gynyddu ar y Ceidwadwyr i gadw at eu haddewid etholiadol.
'Tro Pedol'
"Y tro cyntaf i'r mater gael ei drafod roedd yn is na thrafodaeth ar wneud jam cartref," meddai'r awdur.
"Ond roedd ar frig yr agenda yn ddiweddarach."
Fe wnaed tro pedol ac fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, y byddai sianel yn cael ei sefydlu.
Roedd Thatcher wedi wynebu gwrthwynebwyr fel yr IRA, Y Cadfridog Galtieri ac arweinydd y glowyr, Arthur Scargill.
"Mae'n ymddangos i mi iddi drechu'r rhain lawer yn haws na'r dyn tawel o Gaerfyrddin a oedd yn dweud 'ond fe wnaethoch chi addo'," meddai'r awdur.
Fe fydd y stori hefyd yn nrama ddogfen y dramodydd a'r bardd, T James Jones, wrth nodi pen-blwydd y sianel.
Dywedodd ei fod yn credu bod Gwynfor wedi bod yn rhwystredig wedi pleidlais Na refferendwm 1979 a methiant yr ymgyrch yn y 1950au a 1960au i rwystro boddi Cwm Celyn.
"Dwi'n credu ei fod e'n meddwl ei fod wedi methu ac mai dyma ei gyfle i weithredu yn anghyfansoddiadol er budd Cymru," meddai.
'Dilema'
Dywedodd fod bygythiad Gwynfor i ymprydio yn hollol ddiffuant.
Roedd wedi trafod ei gynlluniau gyda'i ffrind, yr awdur Pennar Davies, a dawelodd ei feddyliau cyn iddo ddweud wrth ei wraig Rhiannon.
"Roedd hwnnw, dwi'n siŵr, yn ddilema a hanner iddo," meddai Jim Parc Nest.
Un sy'n cofio clywed am yr ympryd ywi'r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths oedd yn gweithio i Gwynfor.
"Roedd yn gwybod ym mêr ei esgyrn y byddai'n ymprydio hyd farwolaeth .. roedd yn ddyn oedd yn cysegru popeth pan fyddai'n dweud rhywbeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2012