Apêl am gofeb barhaol i Gwynfor Evans yn nhref Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Carreg Goffa Gwynfor Evans ar fryngaer y Garn Goch, ger Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae carreg goffa Gwynfor ar fryngaer y Garn Goch, ger Llandeilo

Ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, mae apêl genedlaethol yn cael ei lansio i sicrhau cofeb barhaol iddo mewn tref oedd mor allweddol i'w hanes ac i hanes Cymru.

Roedd ei ethol fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966 yn garreg filltir nodedig yn hanes Cymru ac fe gafodd effaith sylweddol ar y broses ddatganoli a arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r canlyniad yng Nghaerfyrddin hefyd yn cael ei weld gan lawer fel sylfaen i fuddugoliaeth Winnie Ewing i'r SNP yn 1967 - digwyddiad yr un mor bwysig i genedlaetholdeb Yr Alban.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwynfor Evans ei eni ar Fedi 1 1912 yn Y Barri.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu'r canmlwyddiant.

Fe fydd yr apêl yn cael ei chyhoeddi mewn cyfarfod ger carreg goffa bresennol Gwynfor ar fryngaer y Garn Goch, ger Llandeilo, lle taenwyd ei lwch yn dilyn ei angladd yn 2005, nos Sadwrn Medi 1.

Y bwriad yw codi cofeb yng Nghaerfyrddin erbyn 2016 - sef 50 mlynedd ers iddo ennill yr isetholiad.

Dywedodd Peter Hughes Griffiths bod £10,000 eisoes wedi ei godi.

"Mae'n bwysig cael cofeb yng Nghaerfyrddin gan fod y dref yn chwarae rhan bwysig yn ein hanes".

"Mae nifer yn dweud, oni bai am y canlyniad hanesyddol yn 1966, fydden ni ddim wedi cyrraedd y sefyllfa heddiw o fod â Senedd yng Nghaerdydd."

Fe fydd gwasanaeth yng nghapel Y Priordy Caerfyrddin brynhawn Sul Medi 2 i gofio'r Cristion, yr heddychwr a'r Cymro.