Ben Davies yn cymryd lle Neil Taylor yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi ychwanegu chwaraewr ifanc Abertawe, Ben Davies, i'r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Serbia.
Daw hyn ar ôl i gyd-chwaraewr Davies yn Y Liberty, Neil Taylor, dorri ei ffêr yn y gêm yn erbyn Sunderland ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i Taylor, a oedd yn rhan o garfan tîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd, fod allan am weddill y tymor.
Davies ddaeth i'r cae ddydd Sadwrn yn ei le ac mae o nawr wedi ei alw i garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Gwnaeth Davies, 19 oed, gryn argraff ar ôl dod i'r cae.
Mae Andrew Crofts a Craig Bellamy hefyd wedi eu hanafu a ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener nac ar gyfer y daith i Serbia ar Fedi 11.
Cafodd Crofts anaf i'w ffêr yng ngêm Brighton and Hove Albion ac mae disgwyl iddo fod allan am dair wythnos.
Buddugoliaeth
Mae Bellamy wedi colli cwpl o gemau i Gaerdydd oherwydd anaf i'w goes ac mae ei gyd-chwaraewr gyda'r Adar Glas, Robert Earnshaw wedi ei alw i garfan Cymru yn ei le.
Tri sydd ar gael i Chris Coleman yw Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Dydi Coleman ddim wedi ennill eto gyda Chymru ers cymryd yr awenau ym mis Ionawr.
Mae carfan Cymru wedi dod at ei gilydd yn eu canolfan hyfforddi ddydd Sul.
Yr Alban, Croatia a Macedonia yw gwrthwynebwyr eraill Cymru yn y grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012