Rhybudd am fwriad Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Eden HazardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Eden Hazard o Lille i Chelsea dros yr haf

Mae Eden Hazard wedi dweud mai dyma gyfle gorau Gwlad Belg i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2014 cyn i'w wlad herio Cymru yng Nghaerdydd nos Wener.

Arwyddodd y chwaraewr canol cae 21 oed gytundeb gwerth £32m gyda Chelsea ym mis Mehefin.

Bydd Gwlad Belg yn chwarae yn erbyn Cymru cyn wynebu Croatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

"I'r wlad a'r cefnogwyr mae'r ddwy gêm yn hollbwysig," meddai Hazard.

"Gyda'r garfan sydd gennym ni, fe ddylen ni fedru gwneud rhywbeth - dyma'r cyfle."

Mae ymhlith nifer o chwaraewyr Gwlad Belg sy'n ennill eu bara menyn yn Uwchgynghrair Lloegr ac mae sawl un wedi cael dechrau gwych i'r tymor newydd.

Ffefrynnau

Mae'n ddegawd ers i Wlad Belg gyrraedd un o brif gystadleuthau pêl-droed ond mae'r disgwyliadau'n uchel y tro hwn gyda chwaraewyr fel Thomas Vermaelen (Arsenal), Jan Vertonghen (Spurs), Marouane Fellaini (Everton), Vincent Kompany (Manchester City) a Hazard ei hun.

Mae buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Yr Iseldiroedd ym mis Awst wedi tanlinellu'r ffaith mai Gwlad Belg yw'r ffefrynnau yng Ngrŵp A, yn enwedig gan fod Cymru yn dal i aros am y fuddugoliaeth gyntaf o dan reolaeth Chris Coleman.

Roedd Coleman yng ngharfan Cymru y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd yn 1997. Yr ymwelwyr oedd yn fuddugol o 2-1.

Dywedodd rheolwr Cymru: "Rydym yn gwybod y byddwn ni'n wynebu tîm cryf iawn o Wlad Belg."

"Mae llawer o'u chwaraewyr yn yr uwchgynghrair ac yn perfformio'n dda ond mae'n well gen i siarad am ein tîm ni.

"Mae gennym ni ein cryfderau ac mae gennym ni rywbeth i'w gynnig i'r grŵp, yn sicr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol