Haf prysur i'r farchnad dai
- Cyhoeddwyd
Mae'r farchnad dai yng Nghymru wedi cadw'n brysur dros yr haf, yn ôl arolwg diweddaraf Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Yn y tri mis hyd at fis Awst, roedd gwerthwyr tai yn adrodd eu bod yn gwerthu tua 4% o'r eiddo ar eu llyfrau bob mis - mae'r lefel yna wedi bod yn gyson drwy gydol 2012.
Bu cynnydd yn nifer y prynwyr sy'n mynd i weld eiddo yng Nghymru er bod llai o dai yn dod ar y farchnad.
Ar draws y wlad, roedd gwerthwyr yn dweud bod eiddo yn gwerthu'n dda pan mae'r pris yn realistig.
Hyblygrwydd
Dywedodd Tony Filice, llefarydd ar ran RICS Cymru: "Mae disgwyl i'r ffigyrau arafu ym mis Awst wrth i nifer o brynwyr oedi tan fis Medi.
"Ond does dim diffyg diddordeb, a phan mae'r gwerthwyr yn fodlon bod yn hyblyg am y pris, mae tai yn gwerthu.
"Er hynny mae trafferthion gyda benthyciadau yn dal y farchnad yn ôl i nifer o ddarpar brynwyr.
"Dydyn ni ddim wedi gweld effaith cynllun ariannu'r llywodraeth hyd yma, ond bydd mwy o alw ar hwnnw dros y misoedd nesaf, fe allai greu hyder yn y farchnad gan arwain at dwf sylweddol."
'Cymharol brysur'
Ar draws y DU, bu cwymp ym mhrisiau tai unwaith eto, gyda Llundain yr unig ardal i weld cynnydd.
Ond yng Nghymru mae syrfewyr siartredig yn rhagweld y bydd mwy o brynu a gwerthu tai yn yr hydref, er nad oes disgwyl i'r prisiau godi.
Dywedodd llefarydd rhanbarthol RICS yng ngogledd Cymru, David Jones:
"Ym mis Awst mae'r farchnad dai fel arfer ar wyliau, ond eleni mae wedi aros adref ac wedi bod yn gymharol brysur.
"Mae pobl sy'n prynu am y tro cyntaf a buddsoddwyr yn mentro i'r farchnad yn raddol gan fod prisiau tai yn fwy realistig - arwyddion pellach fod pethau'n gwella er yn raddol.
"Pe bai'r banciau yn dychwelyd o'u 'gwyliau benthyg', yna fe fydd y gwelliant yn siŵr o barhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012