Coleman: Amddiffyn yn 'gywilyddus'
- Cyhoeddwyd
Dywedodd rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman, ei fod yn teimlo cywilydd oherwydd perfformiad ei dîm gollodd o 6-1 yn erbyn Serbia nos Fawrth.
Y golled yn Novi Sad oedd y waethaf i Gymru ers colli 7-1 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn 1996.
"Roedden ni'n gwybod y byddai'n gêm anodd ond wnaethon ni ddim sylweddoli faint fyddai'r sgôr," meddai Coleman.
"Dyw dweud ein bod yn siomedig ddim yn hanner y stori ac mae'n rhaid i ni wneud yn well oherwydd roedd rhai o'r goliau'n gywilyddus.
Ar y gwaelod
"Mae gennym fynydd i'w ddringo gan ein bod wedi bod ar ei hôl hi ar yr egwyl ymhob gêm ers i mi gymryd y llyw."
Roedd y golled yn gadael Cymru ar waelod Grŵp A yn y gemau rhagbrofol ar ôl colli o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Wener.
Roedd Coleman wedi dweud bod agweddau positif yn erbyn Gwlad Belg er i James Collins gael cerdyn coch yng nghanol yr hanner cyntaf.
Ond doedd dim byd positif, meddai, yn y gêm yn erbyn Serbia.
"Mae'r perfformiad yn embaras i mi - rhaid i mi ddefnyddio'r gair," meddai Coleman.
'Dim hawl'
"Pan ydych yn chwarae dros eich gwlad, rhaid cael rhywfaint o awch a herio'r gwrthwynebwyr. Mae gennym chwaraewyr sy'n medru chwarae pêl-droed ond rhaid ennill yr hawl i wneud hynny.
"Doedden ni ddim wedi ennill yr hawl yna yn erbyn Serbia. Cyn yr egwyl a hithau'n 2-1, roedden ni yn ôl yn y gêm ond wedyn roedd rhoi anrheg o gôl arall cyn hanner amser yn siomedig iawn iawn.
"Fe ddywedon ni ar yr egwyl y byddai'r gôl nesa yn newid y sefyllfa ac fe wnaeth. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn anffodus.
"Rwy'n derbyn cyfrifoldeb. Fi yw'r rheolwr. Ond wnawn ni ddim derbyn perfformiad fel yna. Mae colli 6-1 yn gweir a does dim modd anwybyddu hynny."
Yn y ddwy gêm ragbrofol nesaf, bydd Cymru'n croesawu'r Alban i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Hydref 12, gydag ymweliad â Croatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd Yr Alban gêm gyfartal arall yn erbyn Macedonia nos Fawrth yn dilyn eu pwynt yn erbyn Serbia ddydd Sadwrn, a chyfartal oedd hi hefyd rhwng Croatia a Gwlad Belg nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012
- Cyhoeddwyd7 Medi 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012