Yr economi yn thema allweddol

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood: 'Araith allweddol'

Ail-godi'r economi Gymreig a chreu swyddi yw thema cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, sy'n dechrau ddydd Gwener.

Bydd cynadleddwyr yn clywed bod angen cau'r blwch economaidd a mynd i'r afael â diweithdra fel y gall pawb yng Nghymru wneud y gorau o'u gallu.

Yn y gynhadledd sy'n para deuddydd bydd pynciau fel diweithdra ieuenctid, datgloi pŵer pwrcasu Cymru, pwysigrwydd cymdogaethau cryf, dyfodol y Deyrnas Gyfunol yn ogystal ag addysg uwch yng Nghymru yn cael eu trafod.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn traddodi'r hyn mae llefarydd ar ei rhan yn ei alw'n "araith allweddol".

Bywydau dydd-i-ddydd

Y pwyslais yw bod strategaeth Plaid Cymru yn cynnig atebion i broblemau pobol yn eu bywydau dydd-i-ddydd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddadlau o blaid annibyniaeth.

Mae hynny yn wahanol i bwyslais yr SNP yn yr Alban ond y gwahaniaeth yw bod Alex Salmond yn arwain llywodraeth tro bo Leane Wood yn arwain ail wrthblaid yn y Cynulliad.

Dywedodd Helen Mary Jones, Cadeirydd Plaid Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn cyfarfod yn Aberhonddu ac y mae dewis y dref ar gyfer ein cynhadledd flynyddol yn arwydd o'n penderfyniad i estyn allan i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.

"Ni yw plaid genedlaethol Cymru."

'Y bwlch economaidd'

Mynd i'r afael â phroblemau economaidd Cymru yw blaenoriaeth y blaid, yn ôl y cadeirydd.

"Lledodd y bwlch economaidd o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan ac mae hynny'n parhau dan y llywodraeth Glymblaid.

"Cred Plaid Cymru mai dim ond trwy gymryd mwy o'r awenau yma yng Nghymru y gallwn greu'r genedl lwyddiannus y gwyddon ni y gallwn ni fod.

"Yn ddiamau, mae gennym y ddawn i lwyddo - mae ein gorffennol yn profi y gallwn arwain y byd mewn arloesedd ac uchelgais.

"Mae'n bryd i ni yn awr ailddarganfod y penderfyniad hwn i lwyddo."

Dywedodd fod y gynhadledd yn rhan o waith y blaid wrth ddatblygu a chyflwyno cynllun economaidd fel bod modd gwireddu'r weledigaeth o Gymru fodern, ddeinamig a llwyddiannus.

"Rydyn ni eisiau gweld Cymru nad yw'n gadael neb ar ôl, yn rhoi cyfle i i bob dyn, menyw a phlentyn i gyflawni eu potensial.

"Mae hwn yn amser cyffrous i'r Blaid. Mae gennym arweinydd newydd, ac yn union fel yr Olympiaid a'r Paralympiaid, y nod fydd ysbrydoli pobl Cymru a'u hannog i ymuno gyda ni i bwyso am newid."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol