Plaid: Galw am ymchwiliad TGAU

  • Cyhoeddwyd
Simon Thomas AC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynnig Simon Thomas AC yn galw am ymchwiliad

Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC, wedi galw am ymchwiliad i'r hyn aeth o'i le gyda graddau TGAU Saesneg dros yr haf.

Roedd ei gynnig gerbron cynhadledd flynyddol y blaid yn Aberhonddu yn beirniadu'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a dweud mai fe oedd yn gyfrifol am ganiatáu i'r graddau anghywir gael eu rhoi yn y lle cyntaf.

Dywedodd Mr Thomas fod penderfyniad y gweinidog yn gofyn i CBAC ail-wobrwyo'r graddau yn "dro pedol".

"Y gweinidog sefydlodd y system, fe wnaeth adael i weision sifil drafod hyn gydag Ofqual - a fe sy'n gyfrifol am adael i hyn ddigwydd."

Fe basiwyd y cynnig yn unfrydol.

Ffrae

Ond nid pawb o fewn y blaid sy'n credu bod Mr Andrews wedi bod yn anghywir yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Arglwydd Elis-Thomas, wrth BBC Cymru fore Gwener ei fod yn cefnogi penderfyniad y gweinidog yn gofyn i CBAC ail-raddio.

Mae Mr Andrews wedi bod mewn ffrae ag Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Michael Gove, sydd wedi gwrthod ail-raddio papurau TGAU Saesneg disgyblion yn Lloegr.

Roedd bwrdd rheoleiddio'r wlad, Ofqual, wedi codi'r ffin graddau fel bod angen i ddisgyblion gael mwy o farciau i gael gradd 'C', mwy na'r hyn oedd yn digwydd yn arholiad mis Ionawr.

Wrth siarad gyda'r BBC ni ddywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn anghywir i gytuno gyda Mr Andrews ond fe ategodd hi'r alwad am ymchwilio i "sut y digwyddodd yr holl annibendod."

Dywedodd hi: "Mae gan y Gweinidog Addysg lawer o gwestiynau i'w hateb a'n lle ni yw sicrhau ei fod yn ateb y cwestiynau hynny."

'Canol y byd'

Mewn araith arall yn y gynhadledd dywedodd Aelod Seneddol yr SNP, Angus MacNeil, y dylai Cymru "rhoi ei hun yng nghanol ei byd, yn hytrach na bod ar ymylon byd rhywun arall."

Dywedodd fod Llafur yn yr Alban ac yng Nghymru yn rhagrithiol, gan fod gwell ganddyn nhw gael eu rheoli gan y Blaid Geidwadol o San Steffan na rheoli Alban neu Gymru annibynnol ei hunain.

Fe ddiolchodd i Blaid Cymru am gyd-weithio efo'r SNP ar faterion fel y sgandal arian am anrhydeddau, gan ychwanegu ei fod yn gobeithio gweld Plaid Cymru yn gwireddu ei gweledigaeth am Gymru well.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol