'Pobl hŷn yn cael eu methu'
- Cyhoeddwyd
Mae gormod o bobl hŷn yn cael eu methu gan ein gwasanaethau cyhoeddus yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Gwnaeth Sarah Rochira ei sylwadau wrth gyhoeddi rhaglen waith y Comisiynydd am y tro cyntaf, lle mae'n nodi 50 o ddarnau penodol o waith y bydd yn eu datblygu.
"Rhaid i ni wella ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu anghenion a lleisiau pobl hŷn ym mhle bynnag maent yn byw yng Nghymru", yn ôl y Comisiynydd.
Sarah Rochira fydd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gyfnod o bedair blynedd.
Dywedodd Sarah Rochira: "Byddaf yn gweithio gyda'n gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr bod y ffordd mae cefnogaeth a gwasanaethau sy'n cael eu datblygu yn defnyddio anghenion a lleisiau pobl hŷn yn uniongyrchol.
"Byddaf hefyd yn darparu cyfarwyddyd, a lle bo hynny'n briodol, yn defnyddio'r pwerau cyfreithiol sydd gennyf i sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn.
"Byddaf yn mynnu bod y rheini sy'n gyfrifol am ein gwasanaethau cyhoeddus yn profi i mi, ac i bobl hŷn, eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol".
Mae dros 710,000 o bobl hŷn yng Nghymru, ac mae'r gyfran uchaf o bobl hŷn y DU yn byw mewn rhannau o Gymru.
Ychwanegodd y Comisiynydd: "Mae ein poblogaeth yn heneiddio a bydd y newidiadau y byddwn yn eu gwneud nawr nid yn unig yn effeithio ar y genhedlaeth bresennol o bobl hŷn, ond hefyd ar genedlaethau i ddod.
"Mae'n rhaid i'r rheini sy'n arwain ein gwasanaethau cyhoeddus sicrhau bod y newidiadau y byddant yn eu rhoi ar waith yn gwneud gwahaniaeth pendant ym mywydau'r holl bobl hŷn, ble bynnag maent yn byw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2012