Llwyddiant ariannol i Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cofnodi trosiant uchaf ei hanes.

O ganlyniad, mi fydd dros £20 miliwn yn cael ei fuddsoddi ymhob lefel o'r gêm.

Mae dyled yr Undeb ar ôl codi Stadiwm y Mileniwm wedi gostwng o £75 miliwn i lai nag £20 miliwn.

Dywed yr undeb bod eu perfformiad ariannol yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mehefin yn adlewyrchu llwyddiant y tîm rygbi cenedlaethol.

Yn gynharach eleni fe enillwyd y drydedd Camp Lawn mewn wyth mlynedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe ddywed yr adroddiad fod incwm yr undeb wedi codi i £63 miliwn, sy'n gynnydd o 44% dros y chwe blynedd diwethaf.

Mae'n debyg mai dyma'r cynnydd blynyddol mwya' i unrhyw un o'r prif undebau rygbi ei weld yn y cyfnod hwnnw.

O ganlyniad, cafodd bron i 25% yn fwy ei fuddsoddi'r llynedd ar gefnogi clybiau llawr gwlad.

Ond mae'r canlyniadau'n cyferbynnu'n llwyr â sefyllfa fregus timau rhanbarthol proffesiynol Cymru - sy'n colli arian a chwaraewyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol