Cyflogau rygbi 'ddim yn gynaliadwy'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, mae'r cyflogau sy'n cael eu cynnig i chwaraewyr rygbi yn "gwbl anghynaliadwy".
Roedd Mr Lewis yn siarad yng nghanol pryderon y bydd nifer o chwaraewyr amlycaf Cymru yn gadael rhanbarthau Cymru yn sgil cyhoeddi uchafswm cyflog ddydd Mawrth.
Dywedodd: "Gallan ni ddim cystadlu gyda'r symiau anferth o arian sy'n cael eu taflu i'r gêm yn Ffrainc ar hyn o bryd.
"Mae'r symiau yn fy marn i yn gwbl anghynaliadwy."
Cefnogi
Mae Mr Lewis wedi cefnogi safiad y rhanbarthau gan ddweud y gallai'r arian sy'n cael ei gynnig i dargedu chwaraewyr o Gymru danseilio cynaliadwyedd y gamp.
Ychwanegodd: "Yn syml gall rygbi ddim fforddio talu'r cyflogau sy'n cael eu talu yn Ffrainc ar hyn o bryd os yw'r gêm am oroesi a ffynnu.
"Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw cynnig cyflog i'n chwaraewyr yng Nghymru sy'n deg a rhesymol, ac rwy'n credu ein bod yn gwneud hynny.
"Yn sicr mae hynny'n wir am Undeb Rygbi Cymru, ac rwy'n credu bod y rhanbarthau yn ceisio gwneud hynny hefyd, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn rhengoedd isaf y gêm."
O'r tymor nesaf, bydd rhanbarthau Cymru yn gwario uchafswm o £3.5 miliwn ar garfan o 38 o chwaraewyr ar gyfer cystadleuthau Cwpan Heineken a Chwpan Her Amlin.
Gan nad oes cyfyngiad o'r fath yn Ffrainc, mae sibrydion y bydd Gethin Jenkins ac Adam Jones ymhlith yr enwau mawr sy'n ystyried gadael am y wlad honno.
Mae clybiau yn uwchgynghrair Lloegr yn gweithredu sustem debyg, ond gydag uchafswm cyflog o £4 miliwn ar gyfer y garfan.
Mae ffigyrau amlwg gyda rhanbarthau'r Gleision, Y Dreigiau, Y Gweilch a'r Scarlets wedi galw ar Undeb Rygbi Cymru i ddarparu mwy o arian er mwyn perswadio sêr rygbi Cymru i beidio symud i Ffrainc, Lloegr neu wledydd eraill.
Clo'r Dreigiau, Luke Charteris, yw'r diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn gadael Cymru, ac fe allai fod yn yr un tîm a James Hook yn Perpignan y tymor nesaf.
Mae asgellwr y Dreigiau, Aled Brew, yn darged i Perpignan hefyd yn ôl adroddiadau, ac mae'r Scarlets yn gofidio y gallai nifer o'u sêr ifanc fel Rhys Priestland, George North, Jonathan Davies a Scott Williams gael eu targedu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011