Amheuon am wasanaethau ieuenctid

  • Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn poeni am ddyfodol gwasanaethau ieuenctidFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn poeni am ddyfodol gwasanaethau ieuenctid

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw am ddiogelu gwasanaethau ieuenctid yn wyneb toriadau llym i gyllidebau.

Yn ei adroddiad blynyddol mae Keith Towler yn dweud bod y gwasanaethau yn chwarae rhan bwysig ym mywydau nifer o bobl ifanc.

Mae o'n credu eu bod yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i blant a phobl ifanc ac yn eu hannog i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau. I rai, meddai, gweithwyr ieuenctid ydi'r unig oedolion y gallan nhw ymddiried ynddyn nhw y tu allan i'w cylch teuluol.

Oherwydd bod yr awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol dan bwysau ariannol, mae'r Comisiynydd Plant yn poeni y bydd gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru yn cael eu gwthio i waelod rhestrau blaenoriaethau.

Cyfraniad pobl ifanc

Mae yna awgrym hefyd yn ôl Keith Towler nad ydi rhai pobl ifanc yn cael gwasanaethau o safon. Mae hynny meddai yn dylanwadu ar eu gallu i gyrraedd eu llawn botensial ac i gyfrannu'n bositif yn y gymdeithas.

"Rydw i am weld ymrwymiad cenedlaethol i agenda sy'n cydnabod pwysigrwydd gwaith ieuenctid a sut y mae'n gallu helpu pobl ifanc i ymateb i'r problemau sy'n eu hwynebu fel diffyg sgiliau a diweithdra"

Yn ôl yr adroddiad mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn wynebu dyfodol o galedi ariannol. Ond mae'r Comisiynydd yn mynnu trwy eu helpu i ddatblygu eu gweithgareddau cymdeithasol, yna bydd plant a phobl ifanc Cymru wedi cael y cyfleoedd gorau i lwyddo.

"Y cwestiwn 'dwi'n ofyn ydi - a ydi hi'n werth buddsoddi yn ein pobl ifanc?

"Os yr ydym ni am eu gweld yn tyfu i fod yn oedolion ifanc sy'n parhau i wneud cyfraniadau gwerthfawr i'w cymunedau, yna yr ateb yn syml yw ydi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol