Comisiynydd Plant Cymru yn amau targed dileu tlodi erbyn 2020

  • Cyhoeddwyd
Keith Towler
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Keith Towler bod y sefyllfa economaidd bresennol yn anodd i bawb

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud ei bod yn annhebygol y bydd tlodi plant wedi ei ddileu yng Nghymru erbyn 2020.

Fe wnaeth Keith Towler y sylwadau ar daith o amgylch Cymru ar gyfer rhaglen BBC Cymru sy'n edrych ar y sefyllfa.

Dywedodd un fam o Ynys Môn wrtho ei bod wedi ystyried lladd ei hun oherwydd y pryderon ariannol cyson o ganlyniad i broblemau gyda'i meibion sy'n diodde' o gyflwr generic.

Llywodraethau Cymru a San Steffan sydd wedi gosod y targed o 2020 i ddileu tlodi ymhlith plant.

Mae 'na amcangyfri' bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn cartref sydd yn is na'r incwm cyfartaledd - tua 200,000 i gyd.

Dywedodd y Comisiynydd ei fod yn croesawu dyhead Llywodraeth Cymru ond y byddai'n dymuno gweld mwy o onestrwydd gan wleidyddion.

Deall y sefyllfa

"Dwi'n credu os ydyn nhw'n parhau i ddweud bod angen dileu tlodi plant erbyn 2020, fe fydd pobl yn anfodloni," meddai Mr Towler wrth raglen Playing With Poverty a fydd ar BBC Un Cymru nos Sul.

Mae Mr Towler hefyd yn cwestiynu a ydi gwleidyddion wir yn deall sefyllfa'r rhai sy'n byw mewn tlodi.

Fe wnaeth y rhaglen edrych ar dlodi cefn gwlad yn ogystal gydag elusen plant Jigso yn dweud bod 'na bwysau cynyddol ar eu cleientiaid i allu bwydo eu hunain yn Aberteifi.

Disgrifiad o’r llun,

Keith Towler gyda chyflwynydd y rhaglen David Williams

Yn ôl un teulu o Geredigion, gyda thri o blant ac un arall ar y ffordd, fe aethon nhw o fod yn gefnog i fod yn dlawd mewn mater o rai misoedd ar ôl i'r prif enillwr cyflog golli ei swydd.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod anawsterau economaidd yn cael effaith ar bawb.

"Dyma'n cymunedau, dyma'n pobl ni, mae pob ceiniog yn cyfri," meddai Mr Towler.

Mae dirprwy weinidog gyda chyfrifoldeb am blant, Gwenda Thomas, yn dweud wrth y rhaglen bod llywodraeth Cymru yn ymroddedig i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

"Rydym yn ymrwymedig i wella effaith tlodi a gwneud yr hyn allwn ni i osgoi bod pobl yn mynd i dlodi tymor hir."

Playing with Poverty ar BBC Un Cymru am 10.25pm nos Sul Mai 20.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol