Aaron Ramsey yn colli'r gapteniaeth

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ramsey wedi bod yn gapten ei wlad ers y gêm yn erbyn Lloegr ym Mawrth 2011

Mae Aaron Ramsey wedi colli capteniaeth Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Croatia yn ddiweddarach ym mis Hydref.

Ddydd Gwener cyhoeddodd Chris Coleman, rheolwr Cymru, mai amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams, fydd yn arwain y tîm yn y ddwy gêm.

Roedd Ramsey, chwaraewr canol cae Arsenal, yn gapten Cymru pan oedd Gary Speed yn rheolwr Cymru.

Ond mae'r tîm cenedlaethol wedi colli eu pum gêm ddiwethaf o dan oruchwyliaeth Coleman.

Pwyllgor disgyblu

Mae Williams eisoes wedi arwain ei wlad bedair gwaith o'r blaen gan gynnwys y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Yr Alban dair blynedd yn ôl.

Cafodd y garfan ei henwi fore Gwener ond dydi Craig Bellamy ddim yn rhan ohoni.

Mae gan flaenwr Caerdydd anaf i'w goes ac mae Coleman am i Bellamy ddweud wrtho erbyn dydd Sul a fydd o'n holliach i wynebu'r Alban ar Hydref 12.

Mae 'na amheuaeth â fydd amddiffynnwr West Ham, James Collins, ar gael ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Yr Alban ac oddi cartref yn erbyn Croatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd Collins ei anfon o'r cae am ymddwyn yn dreisgar yn ystod y gem gollodd Cymru o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi.

Mi fethodd o'r ail gêm ragbrofol yn erbyn Serbia pan gollodd Cymru 6-1, ond gallai'r gwaharddiad gael ei ymestyn i ddwy neu dair gêm.

Bydd pwyllgor disgyblu FIFA yn penderfynu ei dynged yn ddiweddarach ddydd Gwener.

Dydi nifer o chwaraewyr Cymru ddim ar gael ar gyfer y gemau rhagbrofol oherwydd anafiadau, gan gynnwys y gôl geidwaid Wayne Hennessey a Boaz Myhill.

Mae Jack Collinson ac Andrew Croft hefyd wedi'u hanafu ond mae Joe Ledley yn ôl yn y garfan.

Carfan Cymru: v. Yr Alban a Croatia ar Hydref 12 a 16.

Golgeidwaid: Jason Brown (Aberdeen), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers)

Amddiffynwyr: Darcy Blake (Crystal Palace), Ben Davies (Abertawe) Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe),

Canol cae: Joe Allen (Lerpwl), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland).

Blaenwyr: Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol