Mark Bridger wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio April Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberystwyth wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones.

Hefyd mae wedi ei gyhuddo o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd yn y ddalfa cyn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon drwy gyswllt fideo ddydd Mercher.

Mae'n cael ei drosglwyddo i Garchar Manceinion, carchar Categori A.

Mewn dillad du roedd yn crio wrth gadarnhau ei fod yn deall y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe wnaeth hefyd gadarnhau ei enw, ei oed a'i gyfeiriad.

Roedd 'na fwy o fanylion am y cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, sef cael gwared ar gorff neu o guddio corff.

Ffynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Bridger yn crio yn y llys wrth gadarnhau ei fod yn deall y cyhuddiadau yn ei erbyn

Roedd nifer fawr o bobl y tu allan i'r llys a theimlad o ddicter yn amlwg wrth i'r fan lle'r oedd Mr Bridger ynddi gyrraedd.

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg y tu allan i'r llys wrth i Mr Bridger gyrraedd.

Roedd 15 o blismyn ar droed a dau gar o flaen a dau tu ôl i'r fan yn ei hebrwng i'r llys.

Cafodd potel blastig ei thaflu at y fan wrth iddi yrru heibio'r dorf fechan a oedd wedi ymgasglu yno.

Roedd presenoldeb y wasg a'r cyfryngau yn amlwg a nifer fawr o ohebwyr wedi methu mynd i mewn i Lys Rhif 1.

Dal i chwilio

Cafodd y ferch bum mlwydd oed ei chipio ger ei chartref ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth nos Lun.

Cafodd Mr Bridger ei arestio brynhawn Mawrth a'i gyhuddo ddydd Sadwrn.

Dydd Llun mae'r chwilio amdani yn parhau a dywedodd yr heddlu eu bod yn dal yn benderfynol o ddod o hyd iddi.

Nos Sul cafwyd cadarnhad y byddai'r timau achub mynydd yn rhoi'r gorau i fod yn rhan o'r chwilio.

Yn ôl llefarydd ar eu rhan, mae'r chwilio bellach yn gweddu'n fwy i swyddogion arbenigol yr heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol