Pêl-droedwyr yn cefnogi April

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i April Jones gael ei gweld oedd am 7pm ar Hydref 1

Bydd pêl-droedwyr Cymru yn gwisgo rhubanau pinc cyn eu gêm yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd nos Wener fel arwydd o gefnogaeth i April Jones.

Bydd y rhubanau ar dracwisg y chwaraewyr cyn y gêm ac yn ystod yr anthemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae April o Fachynlleth wedi bod ar goll ers Hydref 1 ac mae'r teulu wedi gofyn i bobl wisgo pinc, ei hoff liw.

Yn y cyfamser, mae cronfa a sefydlwyd yn ei henw eisoes wedi codi bron £20,000 gyda rhoddion yn cyrraedd o bedwar ban byd.

Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o gipio a llofruddio'r ferch bump oed.

Ddydd Iau roedd rhieni April yn cwrdd ag aelodau'r timau chwilio.

Yn ddiolchgar

Aeth Coral a Paul Jones i ganolfan y chwilio ym Machynlleth a dywedodd y ddau eu bod yn ddiolchgar iawn am waith y timau.

Er bod nifer o dimau chwilio'r heddlu yn chwilio, dywedodd tîm cŵn chwilio arbenigol SARDA eu bod nhw wedi gadael y safle.

Dywedodd y mudiad eu bod wedi dychwelyd i'w swyddi bob dydd ond eu bod yn diolch i bobl Machynlleth am y cymorth a'r gefnogaeth a gafwyd yn ystod eu cyfnod yn y dref.

"Bob tro yr oedden ni'n dychwelyd i'r ganolfan hamdden roedd bwyd a diod poeth yn aros amdanon ni gyda llif cyson o wirfoddolwyr o gwmpas y lle.

"Rydym yn gobeithio fel gwirfoddolwyr ein hunain y bydd diweddglo positif."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol