Trafod cynnig diffyg hyder

  • Cyhoeddwyd

Mae ansicrwydd ynglŷn â dyfodol dirprwy arweinydd Cyngor Sir Benfro, Huw George.

Yn wreiddiol, roedd Mr George i fod i wynebu pleidlais diffyg hyder ddydd Iau.

Bu trafodaeth ar y cynnig ond ni chynhaliwyd pleidlais.

Yn hytrach mae'r cynnig wedi ei gyfeirio i gabinet y cyngor er mwyn iddyn nhw ei ystyried.

Mr George sy'n dal portffolio addysg a'r iaith Gymraeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol