Cyhoeddi strategaeth iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd

Mae'r elusen iechyd meddwl Hafal wedi croesawu cyhoeddiad strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - ond yn pwysleisio'r angen i gyflawni'r argymhellion ynddi.

Yn y strategaeth mae Llywodraeth Cymru yn datgan eu huchelgais i wella iechyd meddwl yng Nghymru a'u gweledigaeth am wasanaethau iechyd meddwl yn y 21ain ganrif.

Dyma yw'r strategaeth iechyd meddwl gyntaf erioed i Gymru, ac mae ar gyfer pobl o bob oed.

Mae cynllun cyflawni'n cael ei gyhoeddi ar yr un pryd i adlewyrchu'r cyfrifoldeb am sicrhau bod dyheadau'r strategaeth yn cael eu cyflawni.

'Un o bob pedwar'

Mae'r strategaeth yn trafod y ddarpariaeth o ystod eang o wasanaethau fel tai, dyled, materion cymdeithasol ac unrhyw beth arall all gael effaith fawr ar iechyd meddwl y cyhoedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Bydd un o bob pedwar person yn cael profiad o salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau.

"Gall hyn ddechrau oherwydd profedigaeth, trawma neu hyd yn oed bryder parhaus am arian.

"Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo pobl yng Nghymru i fwynhau iechyd meddwl da, ac i sicrhau bod pobl sydd â salwch meddwl yn cael yr holl gefnogaeth sy'n bosibl er mwyn gwella."

'Cyfle gorau'

Dywedodd prif weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones: "Rydym yn rhagweld y bydd y strategaeth yn gam positif ymlaen i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Dyma'r cyfle gorau am newid mewn cenhedlaeth.

"Y drafferth gyda gofal yn y gymuned oedd ei fod yn gadael pobl ar eu pen eu hunain ac yn derbyn gwasanaeth gwael yn y gymuned.

"Mae gan y Mesur Iechyd Meddwl a'r strategaeth newydd y potensial i gywiro'r sefyllfa yna."

Bydd y strategaeth yn datgan gweledigaeth am gefnogi pobl mewn tri grŵp :-

  1. Darparu gwasanaethau i bobl sydd ag afiechyd meddwl;

  2. Datgan gweledigaeth am wella'r ddarpariaeth iechyd cychwynnol;

  3. Hybu iechyd meddwl i bawb yng Nghymru.

'Dim adnoddau ychwanegol'

Mae gan Carina Edwards - rheolwr Hafal yng ngogledd Cymru - brofiad personol o salwch meddwl, ac eglurodd:

"Rydym yn disgwyl i'r strategaeth gefnogi'r Mesur Iechyd Meddwl wrth sicrhau bod dull cyfannol yn cael ei fabwysiadu wrth adnabod gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

"Gobeithio y bydd y strategaeth yn cefnogi'r Mesur drwy hybu cynlluniau iechyd sy'n gosod targedau fel y gall cleifion gael cefnogaeth gan ystod eang o sefydliadau o fewn i'r gymuned, o gymdeithasai tai a darparwyr addysg i wasanaethau cyflogaeth.

"Mewn geiriau eraill, bydd pawb yn rhan o ddarparu gwasanaethau sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar driniaeth, ond hefyd yn ateb galw am anghenion ehangach.

"Ond mae angen gofal. Does dim adnoddau newydd ar gael i ddarparu'r gwasanaethau, felly rhaid i Lywodraeth Cymru gadw at eu gair y bydd arian ar gyfer iechyd meddwl yn cael ei glustnodi a'i warchod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol