Cyflwynwyr newydd

  • Cyhoeddwyd
Kate Crockett, Dylan Jones a Gwenllian Grigg fydd prif gyflwynwyr Post Cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

Kate Crockett, Dylan Jones a Gwenllian Grigg fydd prif gyflwynwyr Post Cyntaf

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mwy o newidiadau i'w rhaglenni newyddion ar radio a theledu.

Mae'r newidiadau yn cynnwys lleisiau gwahanol i rai o brif raglenni newyddion BBC Radio Cymru a wyneb newydd i raglen Newyddion ar S4C.

Wedi i Radio Cymru lansio amserlen newydd ddechrau mis Hydref mae 'na gyhoeddiad am newidiadau i raglenni'r Post Cyntaf, Taro'r Post a'r Post Prynhawn.

O Ionawr 21 2013 ymlaen Dylan Jones, Kate Crockett a Gwenllian Grigg fydd prif gyflwynwyr y Post Cyntaf.

Wedi blynyddoedd o godi'n gynnar i gyflwyno'r Post Cyntaf, bydd Garry Owen yn gyfrifol am lywio'r drafodaeth ar bynciau llosg y dydd ar Taro'r Post.

Eisoes mae Gareth Glyn wedi cyhoeddi y bydd yn gadael Post Prynhawn ar ôl 34 blynedd fel cyflwynydd y rhaglen a'i olynydd am bedwar diwrnod bob wythnos fydd Dewi Llwyd.

Nia Thomas fydd yn cyflwyno'r rhaglen bob dydd Gwener a bydd hefyd yn dychwelyd i'w gwaith fel uwch-gynhyrchydd yn yr adran newyddion ac yn cymryd cyfrifoldeb am arwain tîm cynhyrchu'r Post Prynhawn.

O'r cychwyn

Mae Dylan Jones yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel cyflwynydd presennol Taro'r Post ac Ar y Marc ac mae Kate Crockett ar hyn o bryd yn cyflwyno'r rhaglen gelfyddydol Stiwdio.

Dewi Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dewi Llwyd yn cyflwyno'r Post Prynhawn ambedwar niwrnod yr wythnos o Fangor

Cyn hynny fe fu hi'n newyddiadurwraig ar raglenni fel Taro Naw a'r Byd ar Bedwar.

Bydd rhaglen y Post Cyntaf yn parhau i gael ei chynhyrchu o Gaerdydd wrth i raglen Post Prynhawn barhau i gael ei chynhyrchu o Fangor.

Mae Dewi Llwyd wedi bod yn rhan o dîm rhaglen Newyddion ers lansio'r rhaglen yn 1982.

Bydd Dewi yn parhau i ymddangos ar S4C fel cyflwynydd Pawb a'i Farn ac yn parhau hefyd i gyflwyno Dewi Llwyd ar y Sul a Hawl i Holi ar Radio Cymru.

"Fel un o'r rhaglenni hynny sy'n gonglfaen i wasanaeth newyddion Radio Cymru, roeddwn i wastad yn gobeithio'n dawel y byddai yna gynnig yn dod rywdro i gyflwyno'r Post Prynhawn," meddai Dewi Llwyd.

'Cyfrwng uniongyrchol'

"Pan ddaeth y cynnig hwnnw, wnes i ddim petruso am eiliad cyn derbyn.

"Ar ôl cael blas aruthrol ar gyflwyno fy rhaglen radio ar foreau Sul, mi fydda i wrth fy modd yn cael cyfle i wneud mwy o waith radio.

"Yn yr oes ddigidol hon mae'n dal i fod yn gyfrwng gwych ac mor uniongyrchol.

"Mae'r Post Prynhawn yn rhaglen bwysig y mae'r gwrandawyr wedi bod yn troi ati'n ffyddlon ers degawdau.

"Ac ar ben hyn oll, wedi'r holl flynyddoedd o gyflwyno Newyddion yng Nghaerdydd, dyma gyfle o'r diwedd imi roi'r gorau i'r teithiau wythnosol i'r brifddinas!"

Mae S4C wedi diolch i Dewi Llwyd am ei "gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth".

Mae Dewi Llwyd yn gadael y rhaglen ar ôl bron i 30 mlynedd fel aelod o'r tîm.

"Mae hyn yn ddiwedd cyfnod i raglen Newyddion ac i S4C," meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys.

"Mae Dewi wedi bod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ein sianel ers sefydlu S4C bron i 30 mlynedd yn ôl.

"Hoffwn i ddiolch i Dewi am ei gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth ar S4C dros y 30 mlynedd a dymuno'n dda iawn iddo yn ei rôl newydd yn cyflwyno un o brif raglenni newyddion BBC Cymru ar y radio.

"Mae awdurdod a phroffesiynoldeb Dewi wedi bod yn gaffaeliad i S4C - ac rydym yn ofnadwy o falch y bydd yn parhau'n wyneb cyfarwydd i'n cynulleidfaoedd wrth iddo ddal i gyflwyno rhaglen Pawb a'i farn."

O fis Ionawr ymlaen, prif gyflwynwyr Newyddion fydd Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts.

'Sŵn newydd'

Bydd Bethan yn cyfuno ei rôl newydd gyda'i gwaith presennol yn cyflwyno Good Morning Wales ar Radio Wales.

"Rydym yn hyderus y bydd y newidiadau hyn yn atgyfnerthu gwasanaethau newyddion BBC Cymru ar radio a theledu," meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.

"Mae'r holl gyflwynwyr yn newyddiadurwyr profiadol sydd wedi ennill eu plwyf a pharch yn y maes.

"Bydd sŵn newydd i newyddion Radio Cymru a dau wyneb cyfarwydd a sefydlog i Newyddion BBC Cymru ar S4C yn rhoi ogwydd ffres i newyddion yr orsaf a'r sianel."

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Cyfarwydwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, ei fod am weld cyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein y BBC yn fwy na dyblu erbyn 2015, ac mae'r gorfforaeth yn cynnal adolygiad i'r arlwy ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i newidiadau gael eu cyflwyno "gyda'r nod o greu gwasanaeth yn y dyfodol sy'n cynnig cynnwys mwy unigryw i gynulleidfaoedd".

Hefyd gan y BBC