Newidiadau i Radio Cymru o'r hydref ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi manylion pellach o ran newidiadau i'w hamserlen.
Gan ddechrau yn yr hydref fe fydd Iola Wyn yn cyflwyno rhaglen ddyddiol newydd o Gaerfyrddin.
Fe fydd gwasanaeth C2 yn parhau i gynnwys nifer o gyflwynwyr gwahanol.
Mae rheolwyr Radio Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd cerddoriaeth draddodiadol yn cael sylw bob pnawn Sul o fis Hydref wrth i Sesiwn Fach ddod yn rhan barhaol o'r amserlen.
Roedd yr orsaf eisoes wedi cyhoeddi newidiadau yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd y rhain yn cynnwys symud Geraint Lloyd i slot hwyr; cwtogi oriau C2; Nia Roberts i ddarlledu yn y prynhwniau wrth i raglen newydd ddod o'r de-orllewin yn y boreau.
O ran y rhaglen newydd fe fydd Iola Wyn yn cyflwyno o Gaerfyrddin am 10.30am bob bore Llun i Gwener.
Yn llais cyfarwydd ar radio a theledu mae hi'n ymuno a'r orsaf o Adran Newyddion BBC Cymru.
Mae hi hefyd yn gyn-gyflwynydd Ffermio ar S4C.
Cerddoriaeth
Bydd y rhaglen yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Telesgôp.
Cyflwynwyr slot C2 rhwng 7pm a 10pm fydd Huw Stephens (nos Lun); Ifan Evans (nos Fawrth); Lisa Gwilym (nos Fercher) a Georgia Ruth Williams (nos Iau).
Fe fydd Gwilym Rhys yn cyflwyno bob nos Wener am gyfnod cyn i Sioned Mills ddod yn gyfrifol am y slot o fis Ebrill.
Bydd y slot nos Wener yn cychwyn am 6.30pm tan 9pm cyn y bydd rhaglenni dogfen/talent newydd rhwng 9 a 10pm.
Mae Gwilym Rhys yn brif leisydd i'r Bandana ac mae Sioned Mills yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr podlediad Hacio'r Iaith.
Bydd yr awr ar gyfer rhaglenni dogfen cerddorol yn symud o nos Fercher i nos Wener am hanner y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Fel rhan o ymroddiad Radio Cymru i feithrin lleisiau newydd, bydd y slot yma yn cael ei neilltuo ar gyfer talent cyflwyno newydd am weddill y flwyddyn."
Bydd gwasanaeth C2 yn cynnwys y rhaglenni yma ar FM, gwefan gynhwysfawr a bydd y daith ysgolion yn parhau i ymweld ag ysgolion ar draws y wlad.
Newyddion
Idris Morris Jones fydd yn cyflwyno Sesiwn Fach, sy'n rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin ac acwstig Cymreig, ar brynhawn Sul rhwng 3-4.30pm.
Dywedodd y BBC bydd yna hefyd gyflwynwyr gwadd yn achlysurol.
Mae'r newid yn golygu bod rhaglen Gaynor Davies ar brynhawn Sul yn dod i ben.
Yn ogystal fe gyhoeddwyd rhai misoedd yn ôl y bydd slot Taro'r Post yn ymestyn o 12.30pm i 2pm, a'r Post Prynhawn yn rhedeg o 5pm i 6.15pm.
Mae'r newidiadau o ganlyniad i arbedion ariannol dros y 5 mlynedd nesaf, er mwyn arbed £11 miliwn ar draws BBC Cymru.
Yn ogystal ag arbed arian mae'r BBC yn dweud eu bod wedi achub ar y cyfle i sicrhau eu bod yn cynhyrchu rhaglenni o'r safon uchaf posib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2012