Arian newydd i atal difrod llifogydd yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Bydd bron i hanner miliwn o bunnoedd yn cael ei roi i gynorthwyo'r gwaith o drwsio wedi'r difrod achoswyd gan lifogydd yng Ngheredigion yn gynharach eleni.
Cyhoeddodd Gweinidog Amgylchedd Cymru y bydd yr arian ychwanegol yma yn cynorthwyo Asiantaeth yr Amgylchedd gyda'u gwaith presennol i adfer amddiffynfeydd a ddifrodwyd.
Roedd y glaw ddisgynnodd yng ngogledd Ceredigion mewn llai 'na 24 awr ym mis Mehefin yn eithriadol.
O ganlyniad roedd 'na oblygiadau i dros 1,000 o bobl ac achoswyd difrod sylweddol i dai ac eiddo.
Roedd Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-Bont, Capel Bangor, Llanbadarn Fawr a Llandre ymysg yr ardaloedd a gafodd eu taro gan y glaw trwm wnaeth ddisgyn rhwng Mehefin 8 a 9 eleni.
Clywodd rhai o'r teuluoedd na fydden nhw'n gallu dychwelyd i'w tai am hyd at chwe mis.
Mis o law
Dywedodd John Griffiths bod y £440,000 ar gyfer adfer yr amddiffynfeydd llifogydd a ddinistriwyd, cael gwared ar weddillion ac adfer afonydd i'w lwybrau gwreiddiol.
"Cafodd Cymru ei tharo gan y lefel ucha' o law ers 1910 yr haf yma," meddai.
"Roedd Aberystwyth yn un ardal wnaeth ddiodde' yn sylweddol iawn gan weld mis o law yn syrthio mewn llai na 24 awr.
"Fel y gwyddon ni, dyma un o'r llifogydd gwaetha mae Cymru wedi ei wynebu ers sawl blwyddyn."
Dywedodd iddo ymweld â'r ardal wedi'r llifogydd a gweld y difrod a'r dinistr drosto'i hun
"Roeddwn i wedi cael argraff gan ysbryd y gymuned yn y gwaith clirio," meddai.
"Dwi'n falch o allu clustnodi £440,000 ychwanegol i adfer amddiffynfeydd llifogydd allweddol i warchod yr ardal rhag glaw trwm yn y dyfodol."
Mae adroddiad ar lifogydd yr haf wedi dangos bod maint a chyflymder llif yr afonydd wedi arwain atyn nhw i orlifo a llifo drwy ffyrdd a chymunedau a dros dir amaethyddol.
Fe gyhoeddodd Mr Griffiths yn gynharach y byddai £10 miliwn ar gael ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn ystod 2013/14-2014/15.
Bydd y cyhoeddiad diweddara' yn mynd â'r buddsoddiad mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol i £150 miliwn yn oes y cynulliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012