Adroddiad yn codi pryderon am weithwyr yn cymudo
- Cyhoeddwyd
Mae astudiaeth yn awgrymu y bydd nifer o'r swyddi newydd yng Nghymru dros y degawd nesa'n cael eu cymryd gan weithwyr sy'n cymudo i Gymru o'r tu allan.
Mae'n rhagweld y bydd diweithdra'n gostwng yn fwy araf nag yn y DU yn gyffredinol ac mai dim ond 3,000 o bobl yn llai fydd heb waith.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, swyddi a thwf yw eu prif flaenoriaethau.
Dywedodd un economegydd y dylai eu hymdrechion ganolbwyntio ar y sector preifat.
Mae'r adroddiad gan Gomisiwn y DU ar Gyflogaeth a Sgiliau yn astudiaeth fanwl i geisio darogan patrymau economaidd a llafur.
Casgliadau
Mae eu hadroddiad diweddara' ar Gymru yn dod i'r casgliad:
Mae disgwyl i nifer y preswylwyr cyflogedig yng Nghymru dyfu dim ond 0.7% rhwng 2010 a 2020, o'i gymharu â 5.8% yn y DU yn gyffredinol
Gallai'r raddfa ddiweithdra ostwng o gyn lleied â 0.2% yng Nghymru, o'i gymharu â 1.1% ar draws y DU
Mae disgwyl i dwf ac allbwn yng Nghymru barhau ar tua 0.5% y flwyddyn yn arafach na'r cyfartaledd trwy'r DU rhwng 2010 a 2020.
Dywed awduron yr adroddiad fod disgwyl i gyflogaeth dyfu rhyw 5.3% yng Nghymru dros y degawd nesa' - sydd ychydig yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU.
Ond, gyda disgwyl i nifer y preswylwyr cyflogedig yng Nghymru dyfu ar raddfa llawer arafach, mae'r adroddiad yn awgrymu y gallai gweithwyr o'r tu allan i Gymru gymryd nifer o'r swyddi newydd fydd yn cael eu creu rhwng nawr a 2020.
'Mesurau tymor byr'
Dywedodd yr Athro Brian Morgan, economegydd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd: "Mae'r adroddiad fel petai'n cadarnhau beth mae nifer ohonom wedi bod yn ei ddweud ers sbel - y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar greu swyddi yn y sector preifat uwchlaw popeth.
"Mae'n amser osgoi mesurau tymor byr yn y sector cyhoeddus a chanolbwyntio ar wthio buddsoddiad cyfalaf - mewn isadeiledd, buddsoddiad mewnol a thwf mentrau bach a chanolig (SME), neu dai.
"Bydd amcanion eraill y llywodraeth - iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen yn haws i'w gwireddu os bydd yr economi'n tyfu."
'Ateb y gofynion'
Dywedodd Iestyn Davies o Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru fod angen cydbwysedd wrth ddarllen yr adroddiad.
"Mae'r pryderon yn debyg i'r rhai o'r pryderon rydyn ni eisoes wedi'u mynegi i'r dirprwy aelod dros sgiliau.
"Dyw hi ddim cynddrwg â hynny mewn difri' os yw pobl yn gweld cymudo i Gymru fel opsiwn da. Mae 'na bobl eisoes yn symud dros y ffin i weithio ac mae hynny'n mynd i ddigwydd.
Ychwanegodd: "Beth mae'n rhaid i ni wneud yw sicrhau fod y sgiliau a'r gweithlu sydd gennym yn ateb y gofynion.
"Rydym yn gwybod fod 'na fwlch o ran sgiliau nawr ac mae'n rhaid sicrhau nad yw hynny'n gwaethygu yn y dyfodol."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ganddynt raglen gyflogaeth sy'n cynnig cyfle i oedolion sydd heb waith feithrin sgiliau a hyder.
Yn y cyfamser, mae'r rhaglen Twf Swyddi Cymru - sy'n anelu at greu 4,000 o swyddi'r flwyddyn i bobl ifanc - wedi cael gwaith i 1,832 o bobl ifanc ers iddo gychwyn ym mis Ebrill.
Ychwanegodd llefarydd: "Ein blaenoriaeth yn yr amseroedd anodd hyn yw creu swyddi er mwyn galluogi twf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012