Cynnydd yn nifer y di-waith
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y bobol ddi-waith yng Nghymru.
Mae ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos bod 133,000 heb waith rhwng mis Mawrth a Mai eleni.
Mae hyn yn gynnydd o 2,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Ar draws Prydain mae nifer y di-waith wedi gostwng i'w lefel isaf ers bron blwyddyn, sef cwymp o 65,000 i 2.58 miliwn.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: "Ar ôl sawl mis o newyddion cymharol bositif am gyflogaeth yng Nghymru, rwy'n siomedig ond ddim yn synnu at y ffigyrau heddiw.
"Maen nhw'n dangos pa mor fregus yw'r farchnad lafur yng Nghymru yng nghyd-destun ansicrwydd ym mharth yr Ewro a'r marchnadoedd rhyngwladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012