Llywodraeth Cymru: Amddiffyn polisi diweithdra
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu polisi wrth geisio lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gyhoeddi'r ffigurau diweddaraf, dolen allanol ddydd Mercher.
Disgwylir i weinidogion ym Mae Caerdydd ddweud wrth Aelodau'r Cynulliad fod cynllun creu swyddi ar y trywydd cywir i greu 4,000 o swyddi ar gyfer pobl ifanc.
Trafodaethau
Ond bydd Plaid Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy fel rhan o'r trafodaethau ynglŷn â'r gyllideb.
Roedd yr ystadegau blaenorol, dolen allanol yn dangos fod canran y bobl ifanc rhwng 16 oed a 18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), wedi codi o 11% i 12% y llynedd - cyfran sy'n uwch na Lloegr.
Mae hyn yn golygu fod 13,600 ohonyn nhw heb swydd neu ddim yn mynychu ysgol na choleg.
Gallai'r nifer hyn fod hyd yn oed yn uwch yn ôl rhai rhagolygon.
Ym mis Awst roedd 4,455 o bobl rhwng 18 oed a 24 oed wedi bod yn hawlio lwfans ceisio gwaith am flwyddyn neu fwy - y ffigwr uchaf er mis Mai 1997.
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £75 miliwn ar gyfer cynllun Twf Swyddi Cymru.
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd gwaith am gyfnod o chwe mis i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n ddi-waith ar gyfradd yr isafswm cyflog cenedlaethol.
Y bwriad yw creu 4,000 o swyddi bob blwyddyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Ieuan Wyn Jones, nad yw'r cynllun yn ddigon pellgyrhaeddol a byddai'r blaid yn defnyddio'r trafodaethau ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru i geisio creu mwy o brentisiaethau.
Does gan Llywodraeth Cymru ddim mwyafrif yn y Senedd, ac felly mae angen cefnogaeth rhai aelodau o'r gwrthbleidiau er mwyn cymeradwyo'r gyllideb.
'Cynlluniau'
"Dydyn nhw ddim yn gwneud digon oherwydd fe gododd diweithdra ymysg pobl ifanc cyn y dirwasgiad ond erbyn hyn mae diweithdra wedi cynyddu'n sylweddol," meddai Mr Jones.
"Dydyn ni ddim am weld sefyllfa debyg i'r 1980au pan na fu genhedlaeth o bobl ifanc mewn gwaith felly mae'n rhaid i ni roi cynlluniau mewn lle i osgoi hyn."
Dywedodd Y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, bod 'na "ddirwasgiad byd-eang a dydi'r economi Cymreig ddim wedi'i amddiffyn rhag beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd".
"Rydym wedi dioddef tipyn o ergyd ond yn awr rydym yn ceisio defnyddio'r offer sydd ar gael er bod y rhan fwyaf o'r offer hwn yn nwylo Llywodraeth y DU.
"Er hynny, rydym wedi buddsoddi gymaint ag y gallwn ni yn y meysydd rydym yn gallu gweithredu ynddyn nhw ac rydym o ddifri ynglŷn â cheisio gostwng y niferoedd nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012