Llanelli yn cofio trechu'r Crysau Duon union 40 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Cinio mawreddog fydd yn cael ei gynnal i ddathlu un o fuddugoliaethau mwya' eiconig y byd rygbi nos Fercher.
Mae hi'n union ddeugain mlynedd ers i dîm Llanelli drechu'r Crysau Duon ar Barc y Strade.
Mae buddugoliaeth y Cymry o 9-3 yn erbyn pencampwyr y byd ar Hydref 31, 1972 yn dal yn achos balchder yn y dref.
Ymysg y rhai fydd yn dathlu gyda'r clwb y bydd Llywydd Undeb Rygbi Seland Newydd Bryan Williams a Llywydd y Scarlets, Phil Bennett.
Roedd y ddau yn aelodau o'r timau nôl yn 1972.
Mae'r cinio yn adeilad hyfforddi dan-do'r Scarlets sydd wedi ei enwi ar ôl capten Llanelli yn 1972, Delme Thomas.
Bydd nifer o enwogion y byd rygbi yno i ddathlu'r achlysur, gan gynnwys Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Bydd adloniant gan Max Boyce.
Mae Thomas yn cofio'r achlysur ac mae'n cyfaddef iddo fynd yn ôl at yr achlysur pan mae'n teimlo'n isel.
"Nid wyf wedi profi dim byd tebyg i'r diwrnod hwnnw," meddai'r gyn-gapten sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
"Roedd hi'n achlysur arbennig ac roedd yr awyrgylch yn drydanol."
'Corfforol'
Ugain mlwydd oed oedd Gareth Jenkins, Pennaeth Datblygu'r Rhanbarth, pan chwaraeodd yn y gêm.
"Hon oedd y gêm fwyaf corfforol i fi chwarae erioed - doeddwn i erioed wedi profi dim byd tebyg fel chwaraewr ifanc.
"Ar y diwrnod hwnnw fe lwyddodd talent gorllewin Cymru i drechu'r tîm gorau yn y byd gyda'r dorf yn bloeddi ac yn ysbrydoliaeth i'r chwaraewyr ar y cae.
"Ry'n ni erbyn hyn yn ail adeiladu'r cysylltiad hwn rhwng y clwb a'n cymuned yn y cyfnod modern ac yn ein cartref newydd ym Mharc y Scarlets."
Dywedodd Mark Davies Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets: "Mae'r balchder sy'n perthyn i hanes, traddodiad a hunaniaeth y rhanbarth a'r ysbryd sy'n ein clymu ni ynghyd heddiw yn deillio o achlysuron arbennig fel hyn yn hanes y clwb.
"Ry'n ni'n falch iawn bod gennym gyfleusterau fel hyn ym Mharc y Scarlets sy'n rhoi cyfle i ni ddathlu a diolch i'r chwaraewyr am wasanaethu'r clwb.
"Fe fydd y noson yn adlewyrchu'r fuddugoliaeth yn yr ysbryd a'r hwyl ac fe fydd yn gyfle gwych i'r rhanbarth ddod ynghyd am noson i'w chofio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2012