Iechyd meddwl: Hyfforddi 10,000 i roi cymorth

  • Cyhoeddwyd
Person dan bwysau
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod un o bob pedwar unigolyn yn cael problem iechyd meddwl yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.

Mae Mind Cymru yn dathlu llwyddiant cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru wrth i nifer y bobl a hyfforddwyd gyrraedd 10,000 ar ddechrau mis Tachwedd.

Mae hyn yn golygu bod 10,000 o bobl a all roi'r cymorth cychwynnol i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl gartref, yn y gwaith neu allan yn y gymuned bob dydd.

Mae pobl yn aml yn teimlo'n ansicr beth i'w wneud pan fyddant yn meddwl y gallai fod gan rywun broblem iechyd meddwl ac yn poeni y byddant yn dweud rhywbeth o'i le.

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru yn hyfforddi pobl sut i adnabod arwyddion problem iechyd meddwl a sut i roi cymorth a chefnogaeth gychwynnol.

'Straen, pryder, ac iselder'

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol, gan ddatblygu hyder pobl i ofyn i rywun am ei iechyd meddwl a beth i'w wneud nesaf.

Canfu ymchwil a gynhaliwyd y llynedd gan Brifysgol Morgannwg fod 96% o bobl yn teimlo'n hyderus neu'n fwy parod i helpu rhywun â phroblem iechyd meddwl ar ôl cwblhau'r cwrs.

Cefnogir cynllun Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cwrs yn cefnogi nifer o feysydd â blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwella iechyd yn y gwaith.

Dywedodd Claire Foster, Rheolwr Prosiect Cymorth Cyntaf mewn Iechyd Meddwl (Cymru): "Rydym yn hynod falch bod gan Gymru 10,000 o Swyddogion Cymorth Cyntaf mewn Iechyd Meddwl sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth gychwynnol i unrhyw un â phroblem iechyd meddwl.

"Mae problemau iechyd meddwl, yn enwedig straen, pryder ac iselder yn gyffredin iawn.

"Gwyddom y bydd un o bob pedwar unigolyn yn cael problem iechyd meddwl yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.

"Y newyddion da yw bod pobl yn gallu gwella o broblemau iechyd meddwl ac maent yn gwneud hynny, ond gorau po gyntaf y bydd rhywun yn cael cymorth.

"Daw ein Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl o bob rhan o'r gymuned - o grwpiau gwirfoddol i'r rheini sy'n gweithio gyda phobl ifanc, o grwpiau ffydd i'r heddlu a derbynyddion Meddygon Teulu.

"Mae busnesau fel Airbus a Tata Steel hefyd wedi hyfforddi cyflogeion ac maent eisoes yn gweld y manteision."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol