Adolygiad o'r gwasanaeth ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi adolygiad o'r gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.
Tra'n gwneud y cyhoeddiad yn y senedd nos Fercher fe ddywedodd y byddai'n edrych ar bob agwedd o'r gwasanaeth gan gynnwys perfformiad, cyllid a'r berthynas gyda'r byrddau iechyd lleol.
Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan y lach yn ddiweddar am fethu a chyrraedd ei dargedau o ran amser ymateb sawl gwaith eleni.
Gwadodd Mrs Griffiths honiadau fod ffrae ynglŷn â chyllid wedi golygu nad oedd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyllideb.
Mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn y rhan helaeth o'i chyllid gan bwyllgor sy'n cynnwys penaethiaid saith bwrdd iechyd Cymru.
Oedi
Er bod y dyddiad cau am drafodaethau ynghylch y gyllideb ym mis Mehefin ni chytunwyd ar y gyllideb derfynol am 2012/13 tan Dachwedd 2, ddeuddydd wedi i BBC Cymru amlygu'r oedi.
Dywedodd Mrs Griffiths fod dyraniad ariannol craidd y gwasanaeth wedi cael ei gytuno ym mis Ebrill a bod y trafodaethau diweddar yn ymwneud ag "addasu'r gyllideb yng nghanol y flwyddyn ariannol".
"Bydd hwn yn adolygiad cynhwysfawr ac yn delio â'r perthynas â byrddau iechyd, targedau, y posibilrwydd o newid y trefniadau cyfredol, a'r perthynas rhwng gwasanaethau arferol a gwasanaethau brys o ran cludo cleifion."
Mae swyddogion wedi cael eu gofyn i greu cylch gorchwyl erbyn diwedd y mis.
Naw adolygiad
Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol mai hwn fyddai'r nawfed adolygiad o'r fath.
Dywedodd wrth Mrs Griffiths yn ystod ddadl yn y senedd am y gwasanaeth ambiwlans: "Mae'n edrych yn debyg i mi fod yn rhaid i chi ddod i'r afael â'r mater hwn ac rwy'n amau mai adolygiad yw'r ateb."
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, mewn datganiad: "Mae tystiolaeth ar draws Gymru yn dangos bod ein gwasanaeth ambiwlans ar fin torri.
"Mae unrhyw ansicrwydd ariannol yn ychwanegu at yr helbul sy'n wynebu rheolwyr a pharafeddygon y gwasanaeth ambiwlans.
"Gallai'r broblem gael ei ddatrys heb adolygiad.
"Dyna gyd sydd angen yw ariannu'r ymddiriedolaeth yn uniongyrchol a bod y Gweinidog yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol amdani."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012