AS: 'Cyhoeddwch yr adroddiad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd wedi galw ar y llywodraeth i gyhoeddi adroddiad i gam-drin mewn cartrefi plant yn y saithdegau a'r wythdegau.
Yn y Senedd yn Llundain dywedodd Aelod Llafur Cwm Cynon ei bod hi wedi gweld Adroddiad Jillings er ei fod wedi cael ei ddinistrio gan Gyngor Clwyd.
Roedd angen ei gyhoeddi, meddai.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dweud eu bod yn ceisio darganfod a oedd copi o'r adroddiad ar gael cyn gofyn am farn gyfreithiol a ddylid ei gyhoeddi.
'Erchyll'
Dywedodd Ms Clwyd fod rhai o'i hetholwyr yn y cartrefi dan sylw wedi sôn wrthi am eu "profiadau erchyll".
"Mi gymerais i ddatganiadau tystion pedwar ohonyn nhw ac ni alla' i ddweud pa mor erchyll oedd yr hyn ddywedon nhw.
"Mi gafodd hyn effaith emosiynol fawr arna' i.
"Byddwn yn croesawu un ymchwiliad fyddai'n cwmpasu'r cyfan - oherwydd mae yna gymaint o ymchwiliadau llai wedi eu cynnal.
"A ga' i ofyn am gyhoeddi Adroddiad Jillings am iddo gyfeirio at dreisio, sodomiaeth, ymosodiadau treisgar ac arteithio?"
Doedd dim modd tanbrisio, meddai, effaith hyn oll ar y bechgyn ifanc.
"Mi wnaeth rhywun ddangos copi imi ... roedd yn ddewr iawn ....
"Yn yr adroddiad roedd 2,600 o dystiolaethau. Lle maen nhw? Dwi'n siwr eu bod nhw rywle."
Gofynnodd a allai unrhyw un anfon copi'n ddienw ati yn y Senedd yn Llundain.
Pryderon
Wrth i honiadau am gam-drin rhywiol ddod i'r amlwg yn nechrau'r nawdegau, fe gomisiynodd Cyngor Clwyd Mr John Jillings i ymchwilio i'r mater.
Fe ysgrifennodd adroddiad oedd yn enwi troseddwyr honedig ond ni chafodd ei gyhoeddi yn y nawdegau oherwydd pryderon cyfreithiol.
Yn y cyfamser, mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder a'r Arglwydd Ganghellor, Chris Grayling, wedi cyhoeddi y bydd adolygiad o Ymchwiliad Waterhouse yn digwydd.
Dechreuodd ymchwiliad dan gadeiryddiaeth Syr Ronald Waterhouse yn 1996, ac fe ddaeth yn sgil ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru i honiadau o'r fath lle cafwyd saith o staff y cartrefi yn euog o amryw droseddau.
Nod yr adolygiad fydd: "I adolygu cwmpas ymchwiliad Waterhouse ac os na chafodd unrhyw honiadau penodol o gam-drin plant oedd o fewn maes llafur yr ymchwiliad eu hymchwilio, ac i wneud argymhellion i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder ac Ysgrifennydd Cymru."
'Hollgynhwysol'
Mae'r cyn Weinidog Plant, Tim Loughton, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog David Cameron yn galw am "un ymchwiliad hollgynhwysol" i'r honiadau o gam-drin plant mewn amryw sefydliadau.
Dywedodd Mr Loughton: "Y pryder sydd gen i yw ein bod yn dechrau 'boddi' mewn ymchwiliadau niferus. Yn wir mae cyhoeddiad wedi bod yr wythnos hon am ymchwiliad am ymchwiliad.
"Y flaenoriaeth yw dod â throseddwyr o flaen eu gwell, ond rwy'n credu ei bod yn bryd sefydlu un ymchwiliad i beth aeth o'i le ar draws ystod eang o sefydliadau.
"Heb hynny, rwy'n poeni y bydd nifer o ymchwiliadau ar draws yr heddlu, y BBC, y Gwasanaeth Iechyd, yr eglwys ac yn y blaen, yn mynd ar draws ei gilydd o safbwynt canfyddiadau ac amgylchiadau, ond yn adrodd yn ôl fesul dipyn dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012