Beirniadu gwasanaeth addysg Powys
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff arolygu Estyn wedi beirniadu perfformiad gwasanaeth addysg Cyngor Powys.
Cafodd y cyngor 50 diwrnod i baratoi cynllun gweithredu ac fe gafodd wybod fod angen "gwelliant sylweddol".
Dywed y Cyngor eu bod eisoes wedi cymryd camau i wella'r gyfundrefn.
Un o'r camau yw rhoi cyfrifoldeb am addysg yn nwylo prif weithredwr y sir.
Mae Estyn wedi bod yn monitro'r awdurdod ers arolwg ym mis Chwefror 2011 a daeth tîm o chwe arolygwr fis diwethaf.
Dywedodd llythyr at brif weithredwr y cyngor fod cynnydd "yn rhy gyfyng ac araf" ac mae'n gwneud cyfres o argymhellion pellach.
Bydd arolwg arall o fewn 12 mis.
Ffaeleddau
Mae'r llythyr - sydd hefyd wedi ei yrru at Lywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru - yn dweud bod swyddogion a chynghorwyr allweddol yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei wneud.
"O ganlyniad i'r canfyddiadau, bydd yr awdurdod yn newid o fod o dan oruchwyliaeth Estyn i fod yn awdurdod sydd angen gwelliannau sylweddol."
Roedd hunanwerthusiad y cyngor yn rhy bositif, meddai Estyn, ac nid oedd yn adnabod ffaeleddau na diffyg gweithredu argymhellion blaenorol.
Dywedodd Estyn hefyd nad oedd swyddogion y cyngor wedi cyflwyno gwybodaeth yn eglur a bod safon adroddiadau ysgrifenedig am ymweliadau ysgolion yn "amrywiol".
Pedair ysgol
Yn y sir mae pedair ysgol sydd angen "gwelliannau sylweddol" a thair arall sydd angen mesurau arbennig - yn fwy na'r un awdurdod arall yng Nghymru.
Ond yn ôl y corff arolygu, nid yw'r cyngor wedi defnyddio ei bwerau yn llawn ac nid yw swyddogion unigol wedi gorfod ateb am eu perfformiad.
Er bod y cyngor wedi cau 14 o ysgolion cynradd a chael gwared ar 180 o leoedd gwag mewn ysgolion uwchradd, mae ymdrechion i foderneiddio'r gwasanaeth addysg wedi bod yn rhy araf, ac mae niferoedd disgyblion yn parhau i grebachu, meddai.
Dywedodd arweinydd Cyngor Powys David Jones: "Rydym wedi derbyn llythyr gan yr arolygwyr, ac roedd y casgliadau yn hynod siomedig.
"O ganlyniad rydym wedi cymryd camau sydyn a phenderfynu mynd i'r afael a'r problemau.
"Y weithred gyntaf oedd rhoi cyfrifoldebau'r Prif Swyddog addysg yn nwylo'r Prif Weithredwr.
"Rheolaeth darpariaeth addysg ...yw blaenoriaeth y cyngor, mae'n wasanaeth sy'n rhaid ac a fydd yn llwyddo," meddai Mr Jones.
"Mae ein cynlluniau wedi derbyn cefnogaeth Estyn ond bydd hefyd angen sêl bendith Gweinidog Addysg Cymru.
"Mae gan y cyngor 50 diwrnod i lunio cynllun gweithredol fydd yn amlinellu'r camau fydd yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau'r gwelliannau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012