Cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd ymddiriedolaeth y BBC wedi galw am drawsnewid strwythur y gorfforaeth, yn ogystal â'i system rheoli.
Fe wnaeth yr Arglwydd Patten y sylwadau ar ôl i gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, roi'r gorau i'w swydd yn sgil penderfyniadau dadleuol yn ymwneud â rhaglen Newsnight.
Y cyntaf oedd y penderfyniad i beidio â darlledu rhaglen yn ymwneud â honiadau o gam-drin plant gan Jimmy Savile. Yr ail oedd darlledu rhaglen yn ymwneud â'r honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yn y gogledd yn ystod y 70au a'r 80au.
Fe ddaeth hi i'r amlwg ddydd Gwener fod Steve Messham a honnodd iddo gael ei gam-drin gan aelod blaenllaw o'r blaid geidwadol, wedi gwneud camgymeriad.
Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad nos Sadwrn ar ôl 54 diwrnod yn y swydd, fe ddywedodd George Entwistle mai dyna oedd "y peth anrhydeddus i'w wneud".
Yn ôl Mr Entwistle, a fu'n gweithio i'r BBC ers 23 blynedd: "Mae digwyddiadau eithriadol yr wythnosau diwethaf wedi fy arwain at y casgliad y dylai'r BBC apwyntio arweinydd newydd".
'Anrhydedd a dewrder'
Dywedodd yr Arglwydd Patten, cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, fod Mr Entwistle wedi ymddwyn "gydag anrhydedd a dewrder mawr ac mae'n drueni na fuasai gweddill y byd yn ymddwyn yr un ffordd."
Mae'r cyn weinidog Llafur Kim Howells wedi galw ar yr Arglwydd Patten a phennaeth newyddion y gorfforaeth, Helen Boaden i ymddiswyddo.
Mewn cyfweliad â'r BBC ddydd Sul fe ddywedodd yr Arglwydd Patten y byddai ef yn aros yn ei swydd ac yn canolbwyntio ar geisio adennill ffydd y gynulleidfa yn y gorfforaeth, gan bwysleisio y byddai olynydd parhaol i Mr Entwistle yn cael ei benodi cyn gynted â phosib.
Mae'r BBC wedi ymddiheuro'n ddiamod am ddarlledu honiadau ar raglen Newsnight yr wythnos diwethaf fod dyn wedi cael ei gam-drin gan wleidydd mewn swydd uchel yn llywodraeth Margaret Thatcher mewn cartre' plant yn Wrecsam.
Er ni chafodd neb ei enwi ar y rhaglen, roedd honiadau ar y rhyngrwyd yn fuan wedyn mai at un o gyn-drysoryddion y Torïaid, yr Arglwydd McAlpine, yr oedd yr honiadau'n cyfeirio.
Ond mae'r gŵr wnaeth honni iddo gael ei gam-drin gan aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol wedi dweud ei fod wedi gwneud camgymeriad.
Dywed Steve Messham fod hyn yn achos o gam-adnabod.
Llun
Dywedodd ar ôl gweld llun o'r Arglwydd McAlpine, nad ef gafodd ei ddangos iddo mewn llun gan yr heddlu ddechrau'r 1990au.
Mae'n honni i'r heddlu ddweud wrtho mai Arglwydd McAlpine oedd y dyn yn y llun.
Mae Mr Messham wedi ymddiheuro'n ddiffuant ac yn ostyngedig i'r Arglwydd McAlpine a'i deulu.
Fore Sadwrn fe ddaeth hi i'r amlwg nad oedd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC yn ymwybodol o gynnwys y rhaglen tan ar ôl iddi gael ei darlledu.
Yn ôl George Entwistle, roedd cyfreithwyr wedi asesu cynnwys y rhaglen, ac roedd uwch reolwyr perthnasol hefyd wedi bod yng nghlwm wrth y penderfyniad i ddarlledu'r adroddiad.
Am y tro ni fydd adroddiadau ymchwiliadol yn cael eu darlledu ar Newsnight tra bod adolygiad mewnol yn cael ei gynnal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012