Lleisiau'r dioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith sy'n adlewyrchu lleisiau pobol â dementia yn cael ei greu mewn prosiect newydd.
Dywedodd y trefnwyr y byddai creu a rhannu barddoniaeth yn helpu cadw hunaniaeth dioddefwyr ac yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Roedd y diwrnod cynta' ddydd Sadwrn yn y brifysgol ym Mangor.
Un o'r rhai oedd yn cymryd rhan oedd y bardd a'r nofelydd Sian Northey sy'n astudio Doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg.
"Dw i wedi cynnal ambell i weithdy gyda phobl hŷn yn y gorffennol ac wedi mwynhau'n fawr.
'Arbenigedd'
"Mae hwn yn gyfle i elwa ar arbenigedd y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia a'r bardd John Killick cyn defnyddio hynny yn y gymuned yng Ngwynedd."
Mae'r prosiect yn rhan o gynlluniau Pontio a Thŷ Newydd sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau a dementia.
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg yn y brifysgol: "Mae hon yn enghraifft o'r math o waith arloesol y gall Pontio ei gynnig.
"Bydd Pontio'n gallu dod â'r gwyddorau a'r celfyddydau at ei gilydd mewn ffyrdd newydd a chyffrous a fydd yn helpu ein cymunedau."
Y diwrnod cynta' roedd beirdd ac awduron yn cael hyfforddiant ynglŷn â sut i arwain gweithgareddau.
Gweithdai
Yr hyfforddwyr oedd yr Athro Bob Woods a Joan Woods, arbenigwyr yn y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, a'r bardd John Killick sy'n ysgrifennu yn Saesneg.
Ar ôl cael eu hyfforddi bydd y beirdd yn cynnal gweithdai gyda dioddefwyr mewn cartrefi gofal preswyl yn y flwyddyn newydd.
Bydd y beirdd yn cofnodi ac yn golygu eu geiriau ac os bydd y preswylwyr yn hoffi'r canlyniad, bydd y cerddi hyn ar gael fel ffordd o rannu eu mynegiant a'u profiad.
Dywedodd yr Athro Hunter, "Gall mynegi eu hunain fod yn anodd i bobl sydd â dementia ond weithiau maen nhw'n gallu bod yn greadigol iawn a gwneud cysylltiadau a disgrifiadau diddorol.
"Efallai y bydd y prosiect yn fwy effeithiol yn y gymuned Gymraeg gan fod barddoniaeth yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru ac mae pobl wedi dysgu a chlywed barddoniaeth ers dyddiau ysgol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012