Aelodau Seneddol yn beirniadu diagnosis dementia 'araf'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gleifion sydd â dementia weld arbenigwyr llawer ynghynt, ac mae angen yr arbenigedd ym mhobman, yn ôl adroddiad gan bwyllgor trawsbleidiol o aelodau seneddol.
Maen nhw'n dweud bod angen gwella'r gwasanaethau sydd ar gael, gan fod diagnosis cynnar mor bwysig.
Un o gasgliadau adroddiad y pwyllgor yw nad yw 60% o bobl yng Nghymru sy'n dangos arwyddion o ddementia byth yn cael cadarnhad meddygol ffurfiol fod y cyflwr arnyn nhw.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, y byddai'n ystyried yr adroddiad sydd yn amcangyfrif bod 27,000 o bobl â dementia heb dderbyn diagnosis yng Nghymru.
'Profion cof cymhleth'
Yn ôl Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, sy'n arbenigwr ar seicoleg glinigol pobl hŷn, y brif broblem yw cyfnod y broses asesu.
"Nid y broblem fwyaf yw pa mor hir mae'n cymryd i rywun cael ei weld gan y clinig cof ond pa mor hir yw'r broses asesu," meddai.
"Mae'r broses hon yn newid o ardal i ardal ac mae 'na rwystrau gwahanol.
"Ambell waith mae'n anodd trefnu sgan ar yr ymennydd ac ambell waith y broblem yw nad yw gwasanaethau seicoleg glinigol ar gael i gynnal profion cof cymhleth."
Canfu'r adroddiad gan Grŵp Trawsbleidiol Seneddol Dementia (APPG) fod amseroedd aros am wasanaethau cof yn y Deyrnas Unedig - sy'n rhan allweddol o'r broses ddiagnosis - yn amrywio o rai wythnosau i dros flwyddyn.
Ar gyfartaledd yr amser aros oedd o leiaf tri mis.
'Meddygon teuluol'
Mae'r APPG yn galw am wasanaethau i wella.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths yn croesawu'r adroddiad ac y byddai'n "ystyried y canfyddiadau ac ymateb maes o law".
Dywedodd y Barwnes Sally Greengross, cadeirydd y pwyllgor: "Mae angen inni flaenoriaethu bod pobl â dementia yn derbyn diagnosis cynnar ac mae gwasanaethau cof yn rhan allweddol o'r broses hon."
Yn ddiweddar mae Prif Weinidog Llywodraeth y DU, David Cameron, wedi cydnabod y pwysigrwydd o wella ansawdd gofal pobl â dementia.
"Bydd gwella cyfraddau diagnosis yn golygu y bydd mwy o bobl â dementia yn gallu cael at driniaeth a chymorth i helpu nhw a'u teuluoedd wella ansawdd eu bywydau."
Dywedodd Jeremy Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas Alzheimer: "Heddiw rydym wedi clywed bod nifer o bobl yn cael eu siomi gan wasanaethau sydd i fod i'w helpu i dderbyn diagnosis dementia amserol.
"Mae angen i Aelodau Seneddol i gysylltu â gwasanaethau iechyd lleol a meddygon teuluol i'n helpu canfod beth sy'n digwydd ar y lefel leol ar draws y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012