Rhybudd am ddyled o £130m i'r gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd dyled y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn £70 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, yn ôl rhybudd gan y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio gwariant.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn rhagweld y gallai'r ddyled ar ei gwaetha' fod cymaint â £130 miliwn erbyn Ebrill 2013 ac ar ei orau yn £46 miliwn.
Ond mae'r Archwilydd Cyffredinol yn dweud y byddai y rhan fwyaf o fyrddau iechyd "yn llwyddo fwy na thebyg i beidio mynd i ddyled".
Am flynyddoedd mae'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn ymdrechu i gwtogi'u gwariant a chyrraedd targedau o ran gwneud arbedion.
Cynlluniau
Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Iau yn nodi mai cyfanswm dyled y gwasanaeth iechyd ar ddiwedd mis Medi, hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, oedd £70 miliwn.
Daw hyn wedi i Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd David Sissling ddweud ddydd Sul ei fod yn fwyfwy hyderus y bydd byrddau iechyd Cymru yn cadw o fewn eu cyllidebau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd fod cynlluniau pellgyrhaeddol mewn lle wedi'u llunio ar y cyd rhwng byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru fyddai'n gweld arbedion mawr yn cael eu gwneud yn ystod y chwech mis nesa'.
Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r ystadegau yn profi fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu argyfwng ariannol.
Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd Darren Millar, y byddai'n amhosib i'r gwasanaeth iechyd ganfod £130 miliwn heb gymorth sylweddol gan y llywodraeth neu dorri ar wasanaethau.
Gorwariant
Ond mae'r arolwg canol blwyddyn yn dweud bod y gwasanaeth mewn cyflwr ariannol gwell na'r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r gwasanaeth wedi cael cymorth ariannol gan y llywodraeth.
Y gobaith oedd y byddai'r arian yn cynorthwyo'r gwasanaeth i ddelio gyda'r gorwariant.
"Mae'n ymddangos bod y cylch wedi torri," meddai'r Archwilydd Huw Vaughan Thomas.
Ar ddiwedd mis Medi eleni roedd dyled y byrddau iechyd yn £69 miliwn o'i gymharu â £100 miliwn ar ddiwedd mis Medi 2011.
Dydi rhybudd y swyddfa archwilio - sy'n seiliedig ar ddata gan y gwasanaeth iechyd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru - ddim y cynta' o'i fath.
Mewn adroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ym mis Hydref, dywedodd pwyllgor cyllid y Cynulliad nad oedden nhw'n argyhoeddedig y byddai'r byrddau iechyd yn gallu aros o fewn eu cyllidebau.
'Brawychus'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones: "Mae'r ffigyrau yn frawychus ac yn dangos mor hanfodol yw i'r Gweinidog Iechyd gymryd rheolaeth dros y sefyllfa hon.
"Mae'r toriadau llym sy'n cael eu gosod ar y sector cyhoeddus gan lywodraeth y Torïaid/Democratiaid Rhyddfrydol yn awr yn cael eu teimlo yn y gwasanaeth iechyd.
"Bu'r argyfwng hwn ar gerdded ers tro byd, ar waethaf sicrwydd y gweinidog na fydd mwy o arian yn cael ei roi i achub byrddau iechyd lleol.
"Mae'n bryd iddi fod yn onest bellach am faint y broblem.
"Mae'n hollbwysig cael atebolrwydd ariannol yn y gwasanaeth iechyd, ac yn amlwg, mae yma le i wella.
"Un cam sylfaenol y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd fyddai gwneud byrddau iechyd yn uniongyrchol gyfrifol i bwyllgor iechyd y Cynulliad am eu gwariant.
"Fe fyddem yn sefydlu system o fonitro rheolaidd er mwyn gofalu na chaniateir i gyllidebau hedfan allan o reolaeth bellach."
'Swm anferth'
Daeth rhybudd gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.
"Dydw i ddim wedi f'argyhoeddi bod David Sissling a Lesley Griffiths yn deall faint o risg yw'r sefyllfa.
"Mae'n ymddangos nad oes cysylltiad rhwng yr hyn y mae Swyddfa'r Archwilydd yn dweud a'r hyn ddywedodd pennaeth y gwasanaeth iechyd yr wythnos ddiwethaf.
"Gyda dyled mor fawr â hyn, dyw gwneud arbedion drwy brynu llai o glipiau papur ddim yn mynd i wneud i'r byrddau iechyd dalu ffordd.
"Mae hwn yn swm anferth, ac rwy'n bryderus y bydd gwasanaethau hanfodol yn gorfod cael eu cau tua diwedd y flwyddyn ariannol gan roi cleifion mewn perygl."
'Ymwybodol iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn cadarnhau'r angen i ddiwygio gwasanaethau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Mae byrddau iechyd ar draws Cymru wedi bod yn gwneud llawer o waith i leihau eu gwariant.
"Maen nhw'n rhagweld y byddan nhw'n gwneud £220 miliwn o arbedion eleni yn ychwanegol at y £600 miliwn a wnaethant dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar y gwasanaeth nawr ac yn y dyfodol, ac wrthi'n cynnal adolygiad i edrych ar welliannau yn sefyllfa ariannol y byrddau.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phob sefydliad gwasanaeth iechyd wrth fonitro a chraffu ar y sefyllfa ariannol gyda'r nod o sicrhau y bydd y byrddau iechyd yn talu ffordd erbyn diwedd y flwyddyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012