Wylfa: Cwblhau cytundeb

  • Cyhoeddwyd
Yr Wylfa
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr Wylfa gynhyrchu ynni yn 1971

Cadarnhaodd cwmni Hitachi eu bod wedi cwblhau cytundeb i brynu cynllun niwclear Horizon, sy'n cynnwys codi atomfa newydd yn Wylfa ar Ynys Môn.

Roedd y cynllun yn cael ei werthu gan gwmnïau RWE ac E.ON o'r Almaen.

Hitachi nawr yw perchnogion y ddau safle yn Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Lloegr, a dywed y cwmni o Japan eu bod yn bwriadu codi dwy neu dair atomfa fydd yn cynhyrchu 1,300 megawatt (MW) ar bob un.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Bydd Hitachi nawr yn dechrau trafodaethau gyda rheoleiddwyr y DU i gael caniatâd i ddefnyddio technoleg adweithyddion ABWR (Advanced Boiling Water Reactor) o dan broses Asesiad Dylunio'r DU."

Ychwanegodd y cwmni, a gyhoeddodd ym mis Hydref eu bod am brynu cynllun Horizon, eu bod yn gobeithio y bydd yr adweithydd cyntaf yn gweithio erbyn canol y 2020au.

Gobaith llywodraeth y DU yw y bydd cynllun Horizon yn y pen draw yn cynnwys chwe atomfa a fyddai'n gallu cyflenwi trydan i 14 miliwn o gartrefi am 60 mlynedd.

Fe dalodd Hitachi £696 miliwn am gynllun Horizon, ac fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cynnal trafodaethau er mwyn dod o hyd i gwmni arall i weithredu'r atomfeydd pan fyddan nhw wedi eu cwblhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol